text
stringlengths
396
164k
Croeso i Wicipedia y gwyddoniadur rhydd ac agored, gyda Arbennig:Statistics| o erthyglau Cymraeg A wyddoch chi? Yn ogystal â darllen y gwyddoniadur, gallwch ein cynorthwyo i'w ddatblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Os nad ydyw'n bodoli eto, gallwch greu un ...
bawd|Map o Gymru yn 1891, gan ddangos dosbarthiad y Gymraeg yn ôl ardal mewn pum categori (o dan 10% i dros 80%) Atlas Ieithoedd y Byd (2010)]]Iaith Geltaidd a ddaeth o'r Frythoneg sy'n frodorol i'r Cymry yw Cymraeg ( neu gyda'r fannod). Siaredir y Gymraeg fel iaith frodorol yng Nghymru gan tua 18% o'r boblogaeth, gan ...
bawd|Merch yn ei gwisg Gymreig yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn 206x206px Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr...
Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd. Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid,...
de|bawd|220px|Patagonia (mewn oren) de|bawd|220px|Llyn Espejo, ym Mhatagonia Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Tsile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Tsile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Ay...
bawd|150px|upright|William Shakespeare, un o ysgrifenyddion enwocaf yr iaith Saesneg Iaith Germanaidd sy'n frodorol i Loegr yw'r Saesneg (English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwya'r byd. Mae'n llawer iau na'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill. ...
Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwái, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin a...
:Ceir hefyd: Rhestr o wledydd gyda phoblogaeth llai na Chymru bawd|470px|dde|Map "Coropleth" yn dangos dosbarthiad poblogaeth y byd Dyma Restr gwledydd sofran yn nhrefn eu poblogaeth. Mae'r ffigyrau'n dod o'r CIA World Factbook; dydyn nhw ddim bob amser yn gyfoes, ond mae nhw'n weddol agos. Rhestr Nodyn: Nodir tirioga...
Mae Cymru (Saesneg: Wales; Cernyweg: Kembra; Gaeleg yr Alban: A' Chuimrigh; Gwyddeleg: An Bhreatain Bheag) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Bu Cymru yn wlad annibynnol yn yr Oesoedd Canol ond yn 1284 hawliwyd Cymru trwy gyfraith fel rhan o Deyrnas Lloegr, a newidiodd i Deyrnas Prydain Fawr yn 1707 ac i Deyrnas Unedig Prydain...
Cynhwysir yr enw Prydain yn yr erthyglau canlynol: * Gwlad a thir: ** Prydain Fawr - Ynys Prydain a'i rhagynysoedd; bellach, yng Nghymru defnyddir y term Gwledydd Prydain. ** Ynys Brydain - cysyniad Brythonig a Chymreig, yn enwedig wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, yn cynnwys tiriogaeth neu gyn-diriogaeth y Brythoniaid. *...
Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal neu WordPress yw blog. Mae'r term Blog yn dalfyriad o'r term Saesneg Web log, a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log...
Pentref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Llangrannog (). Saif ar arfordir. Mae ganddi 771 o drigolion, a 51% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Mae'n gartref i Wersyll yr Urdd. Mae gan y pentre ddwy dafarn, Y Ship a'r Pentre Arms. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Pentre Arms a Bois y Cilie. Cafodd Dylan T...
Tref fwyaf Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru yw Aberystwyth. Mae'n sefyll ar lan Bae Ceredigion lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu. Cododd Edmwnt, brawd y brenin Edward I ar Loegr y castell presennol yn 1277 a thyfodd y dref o gwmpas y castell. Daeth yr harbwr yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar...
Canwr, cerddor a bardd oedd David R. Edwards (3 Medi 1964 – 20 Mehefin 2021). Roedd yn cael ei adnabod gan sawl enw yn cynnwys 'Dave Datblygu', 'Dave Edwards' a 'D.R.E.'. Daeth i'r amlwg fel arweinydd y grŵp ôl-pync, arbrofol, Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gwreiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm ynd...
bawd|Siop Nain, Rhuthun, lle cyhoeddwyd yr anthem am y tro cyntaf. bawd|Y copi cynharaf o Hen Wlad fy Nhadau, 1856 Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o...
Cnofil prendrig gyda chynffon drwchus iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y wiwer resog, y wiwer hedegog a'r marmotiaid. Fe'i nodweddir gan gynffon hir wrychog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstral...
Dyma restr o Gymry enwog; nid yw'n gyflawn, wrth gwrs, ac mae'n cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae rhai pobl yn dod o dan mwy nag un pennawd. Maen nhw wedi'u gosod yn nhrefn yr wyddor y cyfenw. Arweinwyr Brenhinoedd a Thywysogion :Am restrau llawn o frenhinoedd a thywysogion gweler yr erthyglau ar deyrnasoedd Brychei...
Siaredir Ocsitaneg ( a adnabyddir hefyd fel lenga d'òc) yn Ne Ffrainc, yn bennaf yn ardal Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) ac ym Monaco; yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania. Mae'r Ocsitaneg yn un o'r ieithoedd Romáwns ac mae'n perthyn yn agos i Gatalaneg....
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) oedd prif gorff ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bob agwedd ar addysg a chymwysterau. Cafodd ei uno ag adran addysg a sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006, gyda nifer o gyrff eraill i greu AADGOS (Yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau), a drow...
Owain ap Gruffydd (c. 1354 – c. 1415) a adnabyddir yn gyffredin heddiw fel Owain Glyn Dŵr, neu Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy gynt) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw "Y Mab Darogan". Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a...
bawd|250px|Cyfrifiadur NeXTstation (1990) bawd|250px|Cyfrifiadur Zuse Z3 yn y Deutsches Museum ym München Dyfais raglenadwy electronig yw cyfrifiadur sy'n cynnwys uned brosesu ganolog (CPU) a chof, y gellir ei ddefnyddio fel prosesydd geiriau neu i gadw cronfa ddata a myrdd o ddibenion eraill. Y ffordd fwyaf cyffredin ...
Sefydliad ymchwil a datblygu addysg yng Nghymru a Lloegr yw'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SYCA). Mae dau brif gyfeiriad i waith y Sefydliad ymchwil a datblygu profion ac asesu. Lleolir y pencadlys yn Slough, Berkshire, yn Lloegr. Lleolir yr uned Gymreig yn Abertawe. Sefydlwyd SCYA yn 1946. Mae Adran A...
Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn , sydd ychydig yn llai na phoblogaeth Caerdydd Fwyaf (yr Ardal Drefol). Ei ...
:Gweler hefyd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn (gwahaniaethu). bawd|175x175px|Arfbais ap Gruffudd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282) oedd Tywysog Cymru o 1258–1282 tan y lladdwyd ef gan filwyr Seisnig yng Nghilmeri, a'r cyntaf i gael ei gydnabod yn Dywysog Cymru...
: Gweler hefyd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) a Llywelyn (gwahaniaethu). Llywelyn ap Iorwerth (c.1173 – 11 Ebrill 1240), neu Llywelyn Fawr, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 1240 roedd yn cael ei gydnabod (ac yn galw ei hun) yn Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri. Roe...
bawd|260x260px|Castell y Rhodwydd a godwyd gan Owain :Am y bardd o'r 16eg ganrif, gweler Owain Gwynedd (bardd). Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (1100 – 28 Tachwedd 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth ac hefyd Tywysog Cymru. Gelwid ef yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Ow...
Nofelydd o Ddinbych a ysgrifennai yn yr iaith Saesneg oedd Rhoda Broughton (29 Tachwedd 1840 – 5 Mehefin 1920). Llyfryddiaeth *Cometh up as a flower (1867) *Not wisely, but too well (1867) *Red as a rose is she (1870) *Good-bye, sweetheart! (1872) *The Temple Bar (1872) *Nancy (1873) *Tales for Christmas Eve (1873) *J...
Arlunydd o Gymru oedd Augustus John (4 Ionawr 1878 – 31 Hydref 1961), ac roedd yn frawd i Gwen John. Ganwyd yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro. O ganlyniad i ddylanwad James Dickson Innes o Lanelli aeth ar daith arlunio i ogledd Cymru, a daeth i sylweddoli posibiliadau paentio tirwedd panoramig y wlad. Aeth ymlaen yn ddiw...
:Gweler hefyd Jack Jones (arweinydd undeb) Nofelydd o Gymro a ysgrifennai yn Saesneg oedd Jack Jones (24 Tachwedd 1884 – 7 Mai 1970). Ganwyd ym Merthyr Tudful. Llyfryddiaeth *Rhondda Roundabout (1934) *Black Parade (1935) *Unfinished Journey (1937) *Land of My Fathers (1937) *Bidden to the Feast (1938) *Off to Philad...
Roedd Dylan Marlais Thomas (27 Hydref 1914 – 9 Tachwedd 1953) yn fardd Cymreig poblogaidd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac yn dod o Abertawe. Cafodd ei eni a'i fagu yn rhif 5, Cwmdonkin Drive yn ardal yr Uplands. Mae'n enwog am fod yn fardd ddeiliadon ac am ei ddatganiadau hynod o'i weithiau. Mae hefyd yn enwog am or-yfed...
:Am bobl eraill o'r un enw, gweler Emlyn Williams. Dramodydd ac actor o Gymru oedd (George) Emlyn Williams CBE (26 Tachwedd 1905 – 25 Medi 1987). Ganed ef ym Mostyn, Sir Fflint, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i deulu dosbarth gweithiol, Cymraeg ei iaith. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol Ramadeg Treffynnon yn unarddeg oed ...
Bardd metaffisegol o Gymru yn yr iaith Saesneg oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1621 – 23 Ebrill 1695). Bywgraffiad Ganed ef a'i efaill, yr athronydd Thomas Vaughan, yn nhreflan Trenewydd, Sgethrog, Sir Frycheiniog yn 1621/1622. Roedd ei daid yn berchennog Llys Tre-tŵr. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen, er n...
de|200px|bawd|Llwyn yr Eos Difyrrwr, dramodydd ac actor o Gymru oedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951). Roedd yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain. Cy...
Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi 1869 – 11 Mawrth 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio. Bywyd a gwaith Ganed Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr. Gyrfa academaidd Ymunodd â chôr Capel Sant Siôr, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn a...
:Pwnc yr erthygl hon yw dinas Abertawe. Am ddefnydd arall o'r enw Abertawe gweler y dudalen wahaniaethu ar Abertawe. Dinas yn ne Cymru, ar aber Afon Tawe yw Abertawe (Saesneg: Swansea). Ail ddinas fwyaf Cymru o ran maint ydyw, ar arfordir deheuol y wlad, i'r dwyrain o Benrhyn Gŵyr. Tyfodd yn dref fawr yn ystod y 18fed...
Arlunydd a bardd oedd David Jones (1 Tachwedd 1895 – 28 Hydref 1974), a aned yn Arabin Road, Brockley, Caint, Lloegr. Ym 1965, dywedodd Kenneth Clark mai David Jones oedd yr arlunydd Prydeinig byw, gorau, tra gosododd T. S. Eliot a W. H. Auden ei farddoniaeth ymhlith y gwaith gorau a ysgrifennwyd yn 20g. Y ddau ddylanw...
Mae Eryri yn ranbarth mynyddog a pharc cenedlaethol (Parc Cenedlaethol Eryri) yng nogledd Cymru. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf Cymru. Yn draddodiadol defnyddir yr enw am fynyddoedd Arfon, gyda'r Wyddfa fel canolbwynt, ac yn cynnwys Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle, Moel Hebog a Moel Siabod. Ers ffurfio Parc Cene...
Iaith Gymraeg :Am restr lawnach o'r beirdd cynnar a chanoloesol gweler Rhestr beirdd Cymraeg c.550-1600. Gweler hefyd Rhestr awduron Cymraeg (1600-heddiw), sy'n cynnwys nifer o feirdd mwy diweddar a chyfoes. *Aneirin *John Blackwell (Alun) *Euros Bowen *Geraint Bowen *Dilys Cadwaladr *Dafydd ab Edmwnd *Dafydd ap Gwil...
bawd|200px|Arfbais o'r ddinas Fatican Rhestr Pabau Nodyn ar rifo'r Pabau: Ni fu erioed Pab Ioan XX, Pab Martin II na Phab Martin III. tan 499 * Sant Pedr (33(?)-67(?)) * Pab Linws (67(?)-79(?)) * Pab Anacletws I (79(?)-88) * Pab Clement I (88-97) * Pab Evaristws (97-105) * Pab Alecsander I (105-115) * Pab Sixtws I (1...
Newyddiadurwr, fforiwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd a ddaeth yn adnabyddus am fforio yng nghanol Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (ganwyd John Rowlands) (28 Ionawr 1841 – 10 Mai 1904). Daeth i sylw’r cyhoedd oherwydd ei ymgyrch i chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr David Livingstone, a honno...
Nid oes cyfieithiad amgen na Prif Weinidog ar gyfer y teitl Saesneg First Minister ("Gweinidog Cyntaf") a ddefnyddir yn yr iaith honno i ddynodi arweinydd cabinet y llywodraeth mewn sawl gwlad, gan gynnwys Yr Alban a Chymru yn y DU. Ymhlith y gwledydd eraill gyda "Gweinidogion Cyntaf" yn hytrach na 'Phrif Weinidogion' ...
Prifddinas yw'r dref neu ddinas sy'n brif ganolfan y llywodraeth mewn endid gwleidyddol, megis gwladwriaeth neu genedl. Lleolir swyddfeydd y llywodraeth yno, a chynhelir cyfarfodydd y senedd a'r llywodraeth yno hefyd. Caerdydd yw prifddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithiau, Washington, D.C. yw'r brifddinas, ac mae Llundain...
250px|bawd|Y copi gwreiddiol o Stille Nacht, yn llaw y cyfansoddwr Franz X. Gruber. Carol, neu gân Nadolig, yw Tawel Nos (Stille Nacht yn yr Almaeneg wreiddol). Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn 1818 gan Franz X. Gruber, organydd Eglwys Sant Nicolas yn Oberndorf, Awstria. Ysgrifennwyd y geiriau yn 1816 gan Joseph Mor, of...
bawd|Llun o Iesu fel Pantocrator (Brenin y Bydysawd) yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd, Jeriwsalem Iesu o Nasareth (c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd Iesu (neu Isa gan Fwslimiaid; Iesu Grist neu Crist gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn Cristnogaeth. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl: * Mae Cristnogion yn ...
Gwleidydd o Gymru a Phrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol o 2000 i 2009 oedd Hywel Rhodri Morgan (29 Medi 1939 – 17 Mai 2017). Daeth i swydd y Prif Weinidog ar ôl ymddiswyddiad Alun Michael, ac felly ef oedd yr ail berson i arwain Cynulliad Cenedlaethol Cymru ond y cyntaf i ddefnyddio'r teitl Prif Weinidog. Fe'i etho...
bawd|Ffilm o filwyr yr Unol Daleithiau'n cael eu croesawu; Mawrth 2003. Byr oedd y croeso hwn. Yn 2003, fe aeth llywodraethau Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Unedig i ryfel yn erbyn Irac a'i harlywydd Saddam Hussein, rhyfel a barodd hyd at 2011 pan adawodd lluoedd yr Unol Daleithiau. Cred llawer fod yr Americanwyr...
:Erthygl am y sefydliad gwleidyddol yw hon. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y Senedd Senedd Cymru () neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfr...
180px|bawd Llywodraeth Cymru () yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwri...
bawd|320px|Arfbais Cyngor Clwyd Sir weinyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a fodolai o 1974 hyd 1996, oedd Clwyd. Cafodd ei henwi ar ôl Afon Clwyd am fod yr afon honno'n rhedeg trwy ei chanol. Roedd ei diriogaeth yn cyfateb yn fras i'r Berfeddwlad ganoloesol. Yr Wyddgrug oedd canolfan weinyddol y sir. Mae'n dal i fodo...
bawd|262x262px|Cerflun o Owain Glyn Dŵr yng Nghorwen. Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn, ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel...
Cymru Cymraeg :Gweler Rhestr o nofelwyr Cymraeg. Saesneg *Rhoda Broughton *Stevie Davies *Amy Dillwyn *Maurice Edelman *Ken Follett *Menna Gallie *Niall Griffiths *Richard Hughes *Siân James *Jack Jones *Bernard Knight *Richard Llewellyn *Leslie Norris *John Cowper Powys *Allen Raine *Alun Richards *Bernice Rubens *H...
(ar gyfer yr addasiad Cymraeg, gweler Dan y Wenallt) Drama radio enwog 'ar gyfer lleisiau' gan Dylan Thomas a gyhoeddwyd yn 1954 yw Under Milk Wood. Fe'i haddaswyd yn ddrama lwyfan yn ddiweddarach a'i gwneud yn ffilm yn 1971. Mae'r ddrama yn defnyddio barddoniaeth fel cyfrwng; mae'n disgrifio digwyddiadau un diwrnod yn...
Nofelydd yn yr iaith Saesneg o Abertawe oedd Alun Richards (27 Hydref 1929 – 2 Mehefin 2004). Cafodd ei eni ym Mhontypridd. Llyfryddiaeth *The Elephant You Gave Me (1963) *The Rome Patch (1966) *A Woman of Experience (1969) *Home to an Empty House (1974) *Dai Country (1973) (storiau) *The Former Miss Merthyr Tydfil (...
Person sy'n paentio neu'n darlunio mewn celf yw arlunydd neu artist, a hynny ar gyfrwng 2-ddimensiwn fel arfer. Ymhlith yr arlunwyr enwocaf, Cymreig mae Kyffin Williams a Gwen John. Rhestr o arlunwyr benywaidd Mae'r canlynol yn arlunwyr o wledydd Prydain a nodir yn y gyfrol English Female Artists gan Ellen Creathorne ...
Dyma restr o arlunwyr, wedi'u trefnu yn ôl gwlad mewn trefn gronolegol. Cymru (neu o dras Gymreig) *Trajan Hughes (tua 1670 – 1743) *John Dyer (?1699–1758) *Richard Wilson (tua 1713 – 1782) *Thomas Jones (1742–1803) *Moses Griffith (1747–1819) *John Ingleby (1749–1808) *John Downman (1750–1824) *Edward Pugh (1761–181...
Bardd yn yr iaith Saesneg o Loegr o dras Gymreig oedd Gerard Manley Hopkins (28 Gorffennaf 1844 – 8 Mehefin 1889). Fe'i ganwyd yn Stratford, Essex. Gwnaeth ail gyflwyno strwythur mydryddol Hen Saesneg fel y'i ceir yn y gerdd hir Beowulf a gweithiau eraill. Galwodd Gerard Manley Hopkins y mydr hwn yn 'Sprung rhythm'. A...
Bardd a nofelydd o Goedpoeth, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ydy Grahame Davies (ganed 1964) sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae e'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llyfryddiaeth *Adennill Tir (1997) *Sefyll yn y Bwlch (1999) *Oxygen (2000) *Cadwyni Rhyddid (2001) *Ffiniau/Borders (2002) *The Chosen Peo...
Bardd Eingl-Gymreig o Aberdâr oedd Alun Lewis (1 Gorffennaf 1915 – 5 Mawrth 1944). Roedd yn frodor o Gwmaman ger Aberdâr. Yn ôl rhai, dyma fardd gorau'r Ail Ryfel Byd. Bywgraffiad bawd|Alun Lewis, bardd, plac yn Adran Saesneg, Prifysgol Aberystwyth Ymunodd â'r fyddin yn 1940 er ei fod yn heddychwr. Priododd Gwenno Ell...
Yr Aifft *Dalida *Umm Kulthum Yr Alban *Annie Lennox *Rod Stewart Algeria *Patrick Bruel *Cheb Khaled *Cheb Mami *Rachid Taha Awstralia *Rolf Harris *Kylie Minogue Canada *Paul Anka *Celine Dion *Avril Lavigne *Joni Mitchell *Alanis Morissette *Shania Twain *Roch Voisine *Neil Young Colombia *Shakira Ripoll Cymru...
Prifddinas y Deyrnas Unedig a phrifddinas Lloegr yw Llundain (). Saif y ddinas ar lan afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua . Ceir 130 o filltiroedd rhwng Llundain a Chaerdydd. Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion Celtaidd a Rhufeinig, ac mae'n debyg bod yr enwa...
Cipolwg +0: Dineilltuol +1: (PRhGA(NANP)) US, CA, AI, AG, AS, BB, BS, VG, VI, KY, BM, GD, TC, MS, MP, GU, LC, DM, VC, PR, DO, TT, KN, JM +20: EG +210: -- +211: -- +212: MA +213: DZ +214: -- +215: -- +216: TN +217: -- +218: LY +219: -- +220: GM +221: SN +222: MR +223: ML +224: GN +225: CI +226: BF +227: NE +228:...
Dyma Restr yr Ymerodron Rhufeinig (neu Ymerodron Rhufain neu Ymerawdwyr Rhufain). Dangosir blynyddoedd eu teyrnasiad wrth eu henwau. (Sylwer na fu Iŵl Cesar erioed yn ymerawdwr (princeps), daethpwyd i'w alw'n unben (dictator) am oes yn 45 CC [nid ef oedd y Rhufeiniwr cyntaf i fod yn dictator]). Y Principatus * August...
Dyma Restr Ymerodron Bysantaidd. Sylwch: Mae'n anodd dweud pryd daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr Diocletian yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn 284. Mae sawl ymgeisy...
:Gofal: ceir erthygl arall, gydag enw tebyg, sef Wicipedia. Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Sefydliad Wicimedia yw Wicipedia (). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erth...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1948 1949 1950 1951 1952 - 1953 - 1954 1955 1956 1957 1958 ---- Digwyddiadau *5 Ionawr - Perfformiad cyntaf y ddrama En attendant Godot gan Samuel Beckett. *14 Ionawr - Josip Broz Tito yn dod yn Arlywydd Iwgoslafia. *20 I...
Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a'r rhanbarth Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iweryd...
9 Tachwedd yw'rtrichant undeg trydydd (313ydd) dydd o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (314ydd mewn blynyddoedd naid). Erys 52 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn. Digwyddiadau bawd|160px|dde|1989: Cwymp y Mur Berlin * 1918 - Yr Almaen yn dod yn weriniaeth. * 1937 - Japan yn cymryd rheolaeth o Shanghai. * 1938 - Dily...
6 Mai yw'r cant dau ddeg chweched (126ed) dydd o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (127fed mewn blynyddoedd naid). Erys 239 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn. Digwyddiadau bawd|130px|dde|Penny Black * 1840 - Stamp y Penny Black, stamp adlynol cynta'r byd, yn cael ei ddefnyddio'n swyddogol am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd...
26 Mai yw'r cant pedwar deg chweched (146ed) dydd o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (147fed mewn blynyddoedd naid). Erys 219 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn. Digwyddiadau * 1736 - Brwydr Ackia * 1923 - Y ras geir 24 awr gyntaf yn cael ei chynnal, yn Le Mans. * 1940 - Dydd cyntaf Gwacâd Dunkerque * 1942 – Dechreu...
19g - 20g - 21g 1940au 1950au 1960au 1970au 1980au - 1990au - 2000au 2010au 2020au 2030au 2040au 1990 1991 1992 1993 1994 - 1995 - 1996 1997 1998 1999 2000 ---- Digwyddiadau *1 Ionawr - Sylfaen y Cyfundrefn Masnach y Byd *16 Ionawr - Eirlithriad yn y pentref Súðavík, Gwlad yr Iâ; 14 marwolaethau *17 Ionawr - Daeargry...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1945 1946 1947 1948 1949 - 1950 - 1951 1952 1953 1954 1955 ---- Digwyddiadau * Y tro cyntaf i'r Blaid Lafur ymladd pob sedd mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. *12 Mawrth - Trychineb awyr Llandŵ: 78 o bobl yn colli eu ...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1946 1947 1948 1949 1950 - 1951 - 1952 1953 1954 1955 1956 ---- Digwyddiadau *6 Mawrth - Dechrau achos llys Julius ac Ethel Rosenberg. *16 Gorffennaf - Léopold III, brenin Gwlad Belg, yn ymneilltuo o'r orsedd * Sefydlu Pa...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1947 1948 1949 1950 1951 - 1952 - 1953 1954 1955 1956 1957 ---- Digwyddiadau *14 Ionawr - Premiere y rhaglen Today ar NBC yn yr UDA. *6 Chwefror - Tywysoges Elisabeth yn dod yn frenhines y Deyrnas Unedig. *14 Chwefror - A...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1949 1950 1951 1952 1953 - 1954 - 1955 1956 1957 1958 1959 ---- Digwyddiadau *14 Ionawr - Priodas Marilyn Monroe a Joe DiMaggio. *25 Chwefror - Mae Gamal Abdel Nasser yn dod prif weinidog yr Aifft. *13 Mawrth – 7 Mai - Br...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1950 1951 1952 1953 1954 - 1955 - 1956 1957 1958 1959 1960 ---- Digwyddiadau *18 Ionawr-20 Ionawr - Brwydr Yijiangshan, Tsieina *26 Mai – Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig *1 Rhagfyr - Rosa Parks yn gwrthod ildio ei s...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1951 1952 1953 1954 1955 - 1956 - 1957 1958 1959 1960 1961 ---- Digwyddiadau *Petisiwn o 250,000 o lofnodion yn cael ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi - yn mynnu Llywodraeth i Gymru. *19 Ebrill - Priodas yr actores Grace Kelly...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1952 1953 1954 1955 1956 - 1957 - 1958 1959 1960 1961 1962 ---- Digwyddiadau * 10 Ionawr - Harold Macmillan yn dod yn Brif Weinidog y DU. * 21 Mawrth - Priodas yr awdur C. S. Lewis a'r bardd Americanaidd Helen Joy Davidma...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1953 1954 1955 1956 1957 - 1958 - 1959 1960 1961 1962 1963 ---- Digwyddiadau * 8 Ionawr - Mae Bobby Fischer (14) yn ennill y Pencampwriaeth Gwyddbwyll yr Unol Daleithiau. * 1 Chwefror - Lansiwyd y lloeren Americanaidd gyn...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1954 1955 1956 1957 1958 - 1959 - 1960 1961 1962 1963 1964 ---- Digwyddiadau *3 Ionawr - Alaska yn dod yn 49fed Talaith Unol Daleithiau America. *8 Ionawr - Arwisgiad Charles de Gaulle, Arlywydd cyntaf 5ed Gweriniaeth Ffr...
19g - 20g - 21g 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 1950 1951 1952 1953 1954 1955 1956 1957 1958 1959 ---- Digwyddiadau a Gogwyddion Arweinwyr y Byd * Pab Pïws XII (tan 1958) * Pab Ioan XXIII * Brenin George VI (y Deyrnas Unedig, tan 1952) * Brenhines Elizabeth II (y Dey...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1955 1956 1957 1958 1959 - 1960 - 1961 1962 1963 1964 1965 ---- Digwyddiadau Ionawr * 1 Ionawr - Mae'r wlad Camerŵn yn ennill yr annibyniaeth. * 9 Ionawr - Dechrau adeiladau Argae Aswan yn yr Aifft. Chwefror * 3 Chwefro...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1956 1957 1958 1959 1960 - 1961 - 1962 1963 1964 1965 1966 ---- Digwyddiadau Ionawr *20 Ionawr - John F. Kennedy yn dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau Chwefror *26 Chwefror – Hassan II yn dod yn frenin Moroco Mawrth *3...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1957 1958 1959 1960 1961 - 1962 - 1963 1964 1965 1966 1967 ---- Digwyddiadau Ionawr *9 Ionawr - Cytundeb masnachol rhwng Cuba a'r Undeb Sofietaidd. Chwefror *13 Chwefror Traddodi darlith radio Tynged yr Iaith Saunders L...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1958 1959 1960 1961 1962 - 1963 - 1964 1965 1966 1967 1968 ---- Digwyddiadau Ionawr * 14 Ionawr - George C. Wallace yn dod yn llywodraethwr Alabama. * 22 Ionawr - Cytundeb Elysée rhwng yr Almaen a Ffrainc. Chwefror * Cy...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1959 1960 1961 1962 1963 - 1964 - 1965 1966 1967 1968 1969 ---- Digwyddiadau *Crewyd Y Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru *Y ferch gyntaf yn cael ei phenodi'n Aelod Seneddol o Gymru yn Weinidog yn Llywodraeth P...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1960 1961 1962 1963 1964 - 1965 - 1966 1967 1968 1969 1970 ---- Digwyddiadau Ionawr *26 Ionawr - Hindi yn cael ei datgan yn iaith swyddogol India *30 Ionawr - Angladd Syr Winston Churchill yn Llundain Chwefror *18 Chwef...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1961 1962 1963 1964 1965 - 1966 - 1967 1968 1969 1970 1971 ---- Digwyddiadau * Safodd wyth ymgeisydd o'r Plaid Comiwnyddol yn y ddwy etholiad - y mwyaf erioedd i'r blaid hon. Ionawr 150px|bawd|Jean-Bédel Bokassa *1 Ionaw...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1962 1963 1964 1965 1966 - 1967 - 1968 1969 1970 1971 1972 ---- Digwyddiadau Ionawr *18 Ionawr - Jeremy Thorpe yn dod yn arweinydd y Rhyddfrydwyr y Deyrnas Unedig. *23 Ionawr - Deddfu sefydlu'r dref Milton Keynes Chwefro...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1963 1964 1965 1966 1967 - 1968 - 1969 1970 1971 1972 1973 ---- Digwyddiadau Ionawr *5 Ionawr - Alexander Dubček yn dod yn arweinydd Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia. Dechreuad Gwanwyn Prag *15 Ionawr - Daeargryn yn Sisi...
19g - 20g - 21g 1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 1964 1965 1966 1967 1968 - 1969 - 1970 1971 1972 1973 1974 ---- ]] Digwyddiadau Ionawr *2 Ionawr - Rupert Murdoch yn prynu'r News of the World. *5 Ionawr - Yr Undeb Sofietaidd yn lawnsio Venera 5 i Gwener. *20 Ionawr - R...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1965 1966 1967 1968 1969 - 1970 - 1971 1972 1973 1974 1975 ---- Dydd Iau oedd diwrnod cyntaf 1970 neu MCMLXX. Digwyddiadau Ionawr * 12 Ionawr - Byddin Biafra yn ildio; diwedd Rhyfel Cartref Nigeria * 16 Ionawr - Y Cyrnol...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1966 1967 1968 1969 1970 - 1971 - 1972 1973 1974 1975 1976 ---- Digwyddiadau Ionawr *15 Ionawr - Agorfa'r Argae Aswan yn yr Aifft *25 Ionawr - Mae Idi Amin yn dod Arlywydd Wganda. Chwefror *7 Chwefror - Daeargryn yn Tus...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1967 1968 1969 1970 1971 - 1972 - 1973 1974 1975 1976 1977 ---- Digwyddiadau Ionawr *4 Ionawr - Kurt Waldheim yn dod Ysgrifennydd Y Cenhedloedd Unedig *14 Ionawr - Margrethe II yn dod yn frenhines Denmarc *30 Ionawr - Bl...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1968 1969 1970 1971 1972 - 1973 - 1974 1975 1976 1977 1978 ---- Digwyddiadau Ionawr *17 Ionawr - Ferdinand Marcos yn dod yn Arlywydd y Pilipinas. *20 Ionawr - Urddo'r Arlywydd Richard Nixon am yr ail tro. Chwefror *6 Ch...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1969 1970 1971 1972 1973 - 1974 - 1975 1976 1977 1978 1979 ---- Digwyddiadau *Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu llw yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Gwnaeth 11 allan o 36 hynny. *Alec Jones yn cael y mwyafrif mwyaf...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1970 1971 1972 1973 1974 - 1975 - 1976 1977 1978 1979 1980 ---- Digwyddiadau Ionawr *19 Ionawr - Daeargryn yn Himachal Pradesh, India. Chwefror *4 Chwefror - Daeargryn yn Haicheng, Liaoning, Tsieina; 2,041 o bobol yn co...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1971 1972 1973 1974 1975 - 1976 - 1977 1978 1979 1980 1981 ---- Digwyddiadau Ionawr *27-29 Ionawr - Brwydr Amgala rhwng Moroco ac Algeria Chwefror *Y Tywysog Siarl yn dod yn gapten HMS Bronington. *4 Chwefror - Daeargry...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1972 1973 1974 1975 1976 - 1977 - 1978 1979 1980 1981 1982 ---- Digwyddiadau Ionawr *6 Ionawr - Roy Jenkins yn dod yn Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd. *20 Ionawr - Jimmy Carter yn dod yn Arlywydd yr UDA. *31 Ionawr - Agor...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1973 1974 1975 1976 1977 - 1978 - 1979 1980 1981 1982 1983 ---- Digwyddiadau Ionawr *10 Ionawr - Terfysgau gwladwriaethol yn Nicaragwa Chwefror *15 Chwefror - Arestiad y llofruddiwr Ted Bundy yn Pensacola, Fflorida, UDA...
19g - 20g - 21g 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au - 1970au - 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 1974 1975 1976 1977 1978 - 1979 - 1980 1981 1982 1983 1984 ---- Digwyddiadau Ionawr *7 Ionawr - Diwedd y regime Pol Pot yn Cambodia. *16 Ionawr - Diorseddu Shah Iran, sy'n ffoi i alltudiaeth, gan yr Ayatollah Khomeini. C...