EWaqar commited on
Commit
706a361
·
verified ·
1 Parent(s): 545b1a2

Dataset welsh cefr

Browse files
A1_mynediad-A2_sylfaen-de-learnwelsh.json ADDED
The diff for this file is too large to render. See raw diff
 
B1_canolradd_de-learnwelsh.json ADDED
The diff for this file is too large to render. See raw diff
 
B2_Uwch-2_de-learnwelsh.json ADDED
The diff for this file is too large to render. See raw diff
 
B2_Uwch-3_de-learnwelsh.json ADDED
@@ -0,0 +1,472 @@
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
1
+ [
2
+ {
3
+ "title": "Uned 1 – Cylchgronau Cymraeg – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – 1",
4
+ "lang": "cy",
5
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
6
+ "format": "sentence-level",
7
+ "category": "reference",
8
+ "cefr_level": "B2",
9
+ "license": "public",
10
+ "text": "Pan fydd erthyglau newyddion yn cael eu creu, byddant yn ymddangos yma."
11
+ },
12
+ {
13
+ "title": "Uned 1 – Cylchgronau Cymraeg – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – 2",
14
+ "lang": "cy",
15
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
16
+ "format": "sentence-level",
17
+ "category": "reference",
18
+ "cefr_level": "B2",
19
+ "license": "public",
20
+ "text": "Nid oedd modd rhagweld y pwysau ofnadwy oedd arnom."
21
+ },
22
+ {
23
+ "title": "Uned 2 – Mudiadau Cymraeg – Darllen – Un rheol yn ormod",
24
+ "lang": "cy",
25
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
26
+ "format": "paragraph-level",
27
+ "category": "reference",
28
+ "cefr_level": "B2",
29
+ "license": "public",
30
+ "text": "Gyda phob tymor addysgol newydd, daw’r straeon arferol am blant yn cael eu troi o ryw ysgol neu’i gilydd am dorri rheolau’r wisg. Yn ddiweddar, Hartsdown Academy yng Nghaint oedd yr ysgol ddaeth i sylw’r wasg, wrth i dros hanner cant o blant gael eu hel adref ar ddiwrnod cynta’r tymor am wisgo rhywbeth nad oedd yn cydymffurfio â’r rheolau.\n\nMae gen i amheuon am werth gwisg ysgol o unrhyw fath, heb sôn am un sydd â rheolau caeth, ond un o’r pethau a’m trawodd gyntaf am y stori yma oedd mai merched oedd y rhai oedd yn ymddangos yn yr adroddiadau, ac mai dillad merched oedd y rhan fwyaf o’r enghreifftiau a roddwyd o wisg yn tramgwyddo. Sgert ry fyr, trowsus rhy dynn, ffrils ar y sanau, bwcl aur ar esgid, esgidiau anaddas a dim blazer – dyna’r troseddau.\n\nMae yna rywbeth anghysurus iawn yn y syniad o oedolyn – dyn yn aml – yn penderfynu bod sgert merch ysgol yn rhy fyr, neu fod ei throwsus yn rhy dynn amdani. Rydw i wedi teimlo erioed bod gwisg ysgol yn arbennig o greulon wrth ferched, gan fod glasoed a hormonau’n golygu bod merched yn newid eu siâp mewn ffordd amlwg iawn, a bod gwisg unffurf yn medru tynnu sylw at y newidiadau hynny mewn modd sy’n eu gwneud yn anghyfforddus a hunanymwybodol.\n\nDydy merched yn eu glasoed chwaith ddim wastad eisiau cuddio’u siâp newydd mewn gwisg ysgol wrywaidd ei steil, gan deimlo’n ffrympi a di-ryw. Mae bechgyn yn mynd drwy newidiadau mawr hefyd wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim yn newidiadau sy’n dylanwadu yr un fath ar yr hyn maen nhw’n debygol o fod eisiau ei wisgo.\n\nPan o’n i yn yr ysgol, doedd dim hawl gan ferched i wisgo trowsus. Doedd neb yn fodlon rhoi rheswm dros hyn, dim ond mai dyna oedd y rheol, ond fe ddywedodd un o nyrsus yr ysgol wrtha i nad oedd hi’n addas i ferched wisgo trowsus oherwydd glanweithdra. Dechreuwyd deiseb yn fuan wedyn, a chafwyd buddugoliaeth drowsusol glir.\n\nY ddadl gallaf dros gael gwisg ysgol yw bod gwisg unffurf yn lleihau’r gwahaniaeth rhwng y plant ariannog a’r plant tlotach. Os mai dyna yw’r bwriad tu cefn i sefydlu gwisg ysgol yna mae’n syniad digon clodwiw, ond dydw i ddim gant y cant yn siŵr ei fod yn gweithio. Dydy plant ddim yn wirion, ac yn anffodus, mae’r math o ffôn sydd gan blentyn, y trênyrs sydd ganddyn nhw yn y wers ymarfer corff, y lle maen nhw’n byw ynddo, beth maen nhw’n ei gymryd i ginio, a sut gar sydd gan Mam neu Dad wrth giât yr ysgol – mae’r pethau yma i gyd yn nodi’n glir y gwahaniaeth cymdeithasol rhwng plant a’u cyfoedion.\n\nDisgyblaeth yw’r ddadl arall – eto, rhesymeg ddigon clodwiw, ond yn ôl fy nealltwriaeth i o siarad efo athrawon, y plant sy’n torri’r rheolau gwisg yw’r rhai sydd hefyd yn torri pob rheol arall. Dyma’r rhai sydd yn anystywallt yn y gwersi, yn ddigywilydd efo staff ac sy’n anghofio eu gwaith cartref yn gyson. Onid dyma’r tramgwyddau a ddylai arwain at gosb?\n\nMae’n syniad poblogaidd hefyd fod ffurf-wisg yn paratoi person ifanc at y byd gwaith. Eto, mi welaf y rhesymeg, ond dydy’r siwt ddim mor boblogaidd ag y bu hi yn y gweithle, ac mae yna gant a mil o bethau pwysicach na gwisg pan fo rhywun yn paratoi person ifanc at ennill cyflog: annibyniaeth, cyfrifoldeb, dyfalbarhad, derbyn bod gwaith weithiau’n ddiflas, ac yn bwysicach na dim arall – sgiliau pobl. Y gallu i siarad efo rhywun yn synhwyrol wyneb yn wyneb, ac nid dim ond dros y bali tecst.\n\nA beth am ffurf-wisg yn gyffredinol? Ydy, mae’r argraff gyntaf y mae rhywun yn ei rhoi’n bwysig, ond os nad oes yna fawr o sylwedd tu cefn i’r argraff ffafriol honno, beth yw’r pwynt? Beth am yr ail a’r drydedd argraff, pan nad oes neb bellach yn sylwi ar y siwt? Fe feirniadwyd Jeremy Corbyn yn hallt gan David Cameron am beidio â gwisgo tei – dyn a oedd yn ddigon hapus i roi bil o £53,000 i’r trethdalwr am gynghorydd ffasiwn i’w wraig.\n\nRydan ni i gyd yn hoff o wneud argraff, ond dyna’n union ydy hi – argraff, a rhan fechan iawn o’r stori ydy hynny."
31
+ },
32
+ {
33
+ "title": "Uned 2 – Mudiadau Cymraeg – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – Y berfenw 'bod'",
34
+ "lang": "cy",
35
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
36
+ "format": "sentence-level",
37
+ "category": "reference",
38
+ "cefr_level": "B2",
39
+ "license": "public",
40
+ "text": "Dw i – Yr wyf; Rwyt ti – Yr wyt; Mae hi/e/o – Y mae; Dyn/Dan ni – Yr ydym; Dych/Dach chi – Yr ydych; Maen nhw – Y maent; Ro’n i – Yr oeddwn; Ro’t ti – Yr oeddet; Roedd hi/e/o – Yr oedd; Ro’n ni – Yr oeddem; Ro’ch chi – Yr oeddech; Ro’n nhw – Yr oeddent."
41
+ },
42
+ {
43
+ "title": "Uned 3 – Cerddoriaeth Gymraeg – Darllen – Trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru",
44
+ "lang": "cy",
45
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
46
+ "format": "paragraph-level",
47
+ "category": "reference",
48
+ "cefr_level": "B2",
49
+ "license": "public",
50
+ "text": "Annwyl Olygydd,\n\nDarllenais yn eich papur am gynllun Llywodraeth Cymru i adeiladu trydedd bont dros Afon Menai. Mae cynlluniau eisoes wedi’u cyhoeddi i wario miliynau o bunnau yn lledu’r A55 yn Sir y Fflint, heb sôn am yr holl arian sy’n cael ei wario ar draffordd yr M4 yng Nghymru. Er y bydd y cynlluniau hyn yn lleddfu’r tagfeydd traffig yn y mannau penodol hynny, mae’n debyg, y cyfan a fydd yn digwydd yn y pen draw ydy bod mwy a mwy o geir a lorïau yn teithio ar hyd y ffyrdd hyn ac yn cyrraedd y rhwystr nesaf yn gynt. Bydd tagfeydd traffig mwy difrifol nag erioed, felly, mewn rhannau eraill o’r wlad, er enghraifft Allt Rhuallt a Phenmaenmawr ar yr A55, Port Talbot ar yr M4 neu ar yr A40 y tu hwnt i Gaerfyrddin. Mewn deng mlynedd, bydd angen llu o gynlluniau newydd drudfawr i ddelio â’r holl bwysau ychwanegol ar isadeiledd ein priffyrdd y bydd y ‘gwelliannau’ wedi’u creu. Dim ond symud y broblem mae’r cynlluniau newydd, nid ei datrys hi.\n\nYn y cyfamser, bydd yr holl lygredd mae’r cerbydau hyn yn ei achosi’n parhau i gynyddu, gan achosi niwed i iechyd y boblogaeth a newidiadau pellgyrhaeddol i’r hinsawdd. Bydd ein hardaloedd gwyrdd yn parhau i grebachu a bydd cynefinoedd ein bywyd gwyllt yn parhau i ddiflannu ar gyflymder arswydus. Beth ydy’r pwynt i’r Llywodraeth wario biliynau er mwyn tynnu rhyw ddeng munud oddi ar fy siwrne os na fydda i’n gallu anadlu awyr iach ar ôl cyrraedd?\n\nDw i ddim yn deall pam mae’r Llywodraeth mor awyddus i ddatblygu ein traffyrdd a’n priffyrdd, beth bynnag. Byddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr buddsoddi’r holl arian mewn cynlluniau i ddatblygu’r rheilffyrdd. Pe bai’r Llywodraeth yn sicrhau bod y prif leiniau i gyd yn cael eu trydaneiddio a bod y gwasanaeth yn gyflym, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy, byddai llawer mwy o yrwyr yn fodlon gadael eu ceir gartref a byddai llawer mwy o gwmnïau masnachol yn fodlon i’w nwyddau gael eu dosbarthu ar y trên. Byddai’n rhaid adfer ac ailagor sawl hen reilffordd er mwyn sicrhau rhwydwaith cyflawn i Gymru, wrth gwrs, ond byddai hynny’n fuddsoddiad llawer mwy synhwyrol a chynaliadwy nag adeiladu a lledu mwy a mwy o ffyrdd ar draws y wlad.\n\nA beth am ein porthladdoedd? Mae pawb fel pe baen nhw’n diystyru defnyddio’r môr i gludo nwyddau a theithwyr. Mae llongau’n cysylltu Cymru ac Iwerddon, wrth gwrs, ond pam na ellid datblygu gwasanaeth fferi rhwng Bryste ac Abertawe neu Abergwaun? Byddai hynny’n lleihau’r pwysau ar yr M4 ac ar Bont Hafren yn enwedig. Yn yr un modd, beth am ddatblygu cysylltiadau fferi rhwng Lerpwl ac Ynys Môn? Fyddai dim galw am bont newydd dros Afon Menai na thraffordd chwe lôn yn Sir y Fflint wedyn.\n\nUn peth sy’n gyffredin i holl gynlluniau’r Llywodraeth ydy eu bod nhw’n ceisio datblygu llwybrau trafnidiaeth Dwyrain-Gorllewin. Yn y bôn, felly, eu prif nod ydy gwella’r cysylltiadau â Lloegr a’r perygl ydy mai Iwerddon fydd yn elwa fwyaf o’r cysylltiadau hynny yn y pen draw. Mae dirfawr angen i’r Llywodraeth ddechrau meddwl am ddatblygu cysylltiadau De-Gogledd yng Nghymru. Fyddwn i ddim wir o blaid llyncu erwau o dir gwyrdd a chyfrannu i broblem llygredd trwy droi yr A470 yn draffordd tair lôn o Landudno i Gaerdydd, ond byddai hynny’n ddefnydd gwell o gyllideb y Llywodraeth na’r cynlluniau cyfredol. Yn ddelfrydol, byddwn am weld rhwydwaith eang o reilffyrdd cyflym rhwng De a Gogledd ynghyd â chysylltiadau fferi cyson rhwng Sir y Fflint, Ynys Môn, Aberystwyth, Sir Benfro, Abertawe a Chaerdydd. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth ddechrau meddwl am Gymru fel gwlad yn hytrach nag fel coridor bach hwylus rhwng Lloegr ac Iwerddon.\n\nYn gywir,\nCeri Powys"
51
+ },
52
+ {
53
+ "title": "Uned 3 – Cerddoriaeth Gymraeg – Help llaw – Cymalau sy’n defnyddio ‘y’",
54
+ "lang": "cy",
55
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
56
+ "format": "sentence-level",
57
+ "category": "reference",
58
+ "cefr_level": "B2",
59
+ "license": "public",
60
+ "text": "Dw i’n gwybod y bydd hi’n bwrw glaw yfory.\nRoeddwn i’n gobeithio y byddech chi’n cyrraedd mewn pryd.\nY rhaglen y gwrandawais i arni.\nY tiwtor y dysgodd ei fab y dosbarth.\nY dyn y bydda i’n ei dalu."
61
+ },
62
+ {
63
+ "title": "Uned 3 – Cerddoriaeth Gymraeg – Darllen – Cefndir – Cerddoriaeth gyfoes Gymraeg",
64
+ "lang": "cy",
65
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
66
+ "format": "paragraph-level",
67
+ "category": "reference",
68
+ "cefr_level": "B2",
69
+ "license": "public",
70
+ "text": "Datblygodd canu pop yng Nghymru gyda’r mudiad protest yn y 1960au. Dechreuodd Dafydd Iwan ganu caneuon protest i gyd-fynd ag ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yna, gyda’i gyfaill Huw Jones, sefydlodd Dafydd Iwan Gwmni Sain er mwyn cynhyrchu recordiau o safon uchel, yn gerddorol ac yn dechnegol.\n\nRoedd dylanwad canu gwerin yn drwm ar lawer o’r bandiau Cymraeg cyntaf, ond yn ystod y saithdegau a’r wythdegau datblygodd y sîn Gymraeg i gynnwys pob math o arddulliau, o reggae Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, i gerddoriaeth ddawns Tŷ Gwydr, i gerddoriaeth bync Yr Anhrefn.\n\nHeddiw, mae amrywiaeth o fandiau ac artistiaid yn canu yn Gymraeg ac yn creu cerddoriaeth o safon uchel iawn. Efallai nad ydynt yn denu torfeydd enfawr fel bandiau Cymraeg yr wythdegau, ond mae’n sicr yn gyfnod cyffrous yn hanes cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Diolch i’r we, mae cerddoriaeth Gymraeg yn cyrraedd pobl ym mhedwar ban y byd, a phoblogrwydd artistiaid megis Gwenno – sy’n canu yn Gymraeg ac yn Gernyweg – yn dangos bod modd cael gyrfa lwyddiannus trwy ganu mewn iaith leiafrifol."
71
+ },
72
+ {
73
+ "title": "Uned 4 – Trychineb Aber-fan – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – Yr amser gorffennol – 1",
74
+ "lang": "cy",
75
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
76
+ "format": "sentence-level",
77
+ "category": "reference",
78
+ "cefr_level": "B2",
79
+ "license": "public",
80
+ "text": "Es i – Euthum"
81
+ },
82
+ {
83
+ "title": "Uned 4 – Trychineb Aber-fan – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – Yr amser gorffennol – 2",
84
+ "lang": "cy",
85
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
86
+ "format": "sentence-level",
87
+ "category": "reference",
88
+ "cefr_level": "B2",
89
+ "license": "public",
90
+ "text": "Cefais – Rhoddais"
91
+ },
92
+ {
93
+ "title": "Uned 4 – Trychineb Aber-fan – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – Yr amser gorffennol – 3",
94
+ "lang": "cy",
95
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
96
+ "format": "sentence-level",
97
+ "category": "reference",
98
+ "cefr_level": "B2",
99
+ "license": "public",
100
+ "text": "Buon nhw – Buont"
101
+ },
102
+ {
103
+ "title": "Uned 4 – Trychineb Aber-fan – Darllen – Cefndir – Trychineb Aber-fan",
104
+ "lang": "cy",
105
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
106
+ "format": "paragraph-level",
107
+ "category": "reference",
108
+ "cefr_level": "B2",
109
+ "license": "public",
110
+ "text": "Pentref tua phedair milltir i’r de o Ferthyr Tydful yw Aber-fan. Fel cymaint o bentrefi yng nghymoedd De Cymru, tyfodd cymuned yno o ganlyniad i’r diwydiant glo.\n\nAr 21 Hydref 1966, digwyddodd trychineb erchyll yn Aber-fan. Roedd plant Ysgol Gynradd Pantglas newydd orffen eu gwasanaeth boreol pan lithrodd tomen o wastraff glo o’r tipiau oedd ar ben y mynydd uwchben y pentref gan ddinistrio’r ysgol a deunaw tŷ. Lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion."
111
+ },
112
+ {
113
+ "title": "Uned 4 – Trychineb Aber-fan – Darllen – Cerdd ‘Aber-fan’ gan T. Llew Jones",
114
+ "lang": "cy",
115
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
116
+ "format": "paragraph-level",
117
+ "category": "reference",
118
+ "cefr_level": "B2",
119
+ "license": "public",
120
+ "text": "I Hamelin erstalwm\nOs yw’r hen stori’n ffaith,\nFe ddaeth rhyw bibydd rhyfedd\nYn gwisgo mantell fraith.\n\nA’r pibydd creulon hwnnw\nA aeth â’r plant i gyd\nA’u cloi, yn ôl yr hanes,\nO fewn y mynydd mud.\n\nA Hamelin oedd ddistaw\nA’r holl gartrefi’n brudd,\nA mawr fu’r galar yno\nTros lawer nos a dydd.\n\nDistawodd chwerthin llawen\nY plant wrth chwarae ‘nghyd,\nPob tegan bach yn segur,\nA sŵn pob troed yn fud.\n\nTrist iawn fu hanes colli\nY plant diniwed, gwan –\nYn Hamelin erstalwm,\nHeddiw yn Aber-fan."
121
+ },
122
+ {
123
+ "title": "Uned 5 – Ffoaduriaid ac Brotest Iaith – Darllen – Ffoaduriaid yn Aberystwyth",
124
+ "lang": "cy",
125
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
126
+ "format": "paragraph-level",
127
+ "category": "reference",
128
+ "cefr_level": "B2",
129
+ "license": "public",
130
+ "text": "Fuoch chi erioed yn Aberystwyth? Os felly, mae’n debyg y byddwch chi’n gwybod am y prom hyfryd, Craig-glais (Constitution Hill neu Consti), a’r Brifysgol (neu’r ‘Coleg ger y lli’). Ond tybed a wyddech chi fod Aberystwyth yn prysur ennill enw da yn fyd-eang am reswm arall?\n\nErs mis Rhagfyr 2015 mae dros ddeugain ffoadur o Syria wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Teuluoedd gyda phlant yw’r rhan fwyaf, ond mae hefyd ambell fam-gu a thad-cu a rhai pobl sengl ymysg y criw. Yn ôl gwirfoddolwyr lleol, dywed y ffoaduriaid eu bod wedi cael croeso yn y dref; mae’n lle saff a heddychlon iddynt ailadeiladu eu bywydau.\n\nDaeth y ffoaduriaid cyntaf i Aberystwyth trwy wahoddiad Cyngor Sir Ceredigion. Wedi hynny, sefydlwyd elusen o’r enw Aberaid, i gefnogi’r ffoaduriaid ac i gartrefu rhagor o deuluoedd ffoaduriaid.\n\nUn o sylfaenwyr Aberaid yw Siôn Meredith, sy’n rheolwr yn y sector Dysgu Cymraeg. Fel yr esbonia Siôn, nid gwaith hawdd i Aberaid oedd cartrefu’r teuluoedd ychwanegol.\n\n“Roedd yn rhaid codi £9,000 o nawdd bro i brofi i’r Swyddfa Gartref fod gennym y modd i gefnogi’r ffoaduriaid. Y cam nesaf oedd cyflwyno Cynllun Adsefydlu manwl iawn, a’r her fwyaf oedd dod o hyd i gartrefi addas. Roedd yn rhaid dod o hyd i landlordiaid preifat dibynadwy, gweithio gyda’r asiantaethau priodol, a threfnu gwersi Saesneg i’r ffoaduriaid.”\n\nYn ôl Siôn, mae Aberaid yn gwneud yr hyn na all y Cyngor Sir ei wneud, sef “creu pont, agor drysau a meithrin cyfeillgarwch” rhwng y ffoaduriaid a’r gymuned leol. Mae Clwb Cinio wythnosol Aberaid wedi bod yn llwyddiant ysgubol, lle mae pawb yn rhannu pryd o fwyd ac yn dod yn ffrindiau.\n\nCynllun llwyddiannus arall yw’r Syrian Dinner Project, a sefydlwyd gan fenywod o Syria mewn cydweithrediad â’r Groes Goch. Maent wedi cynnal gwleddoedd mewn neuaddau eglwys ac mewn bwytai lleol, gan ennill profiad, sgiliau, a chymwysterau megis tystysgrifau hylendid bwyd. Mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad i’r menywod gan fod lletygarwch yn rhan bwysig o ddiwylliant Syria.\n\nMae Aberaid hefyd yn cefnogi unrhyw ffoaduriaid sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg. Un o’r rheiny yw Mohammed, sydd bellach yn gweithio yn y gymuned ac mae ei gydweithwyr yn siarad Cymraeg. Er bod dysgu’r iaith yn heriol, mae ei ymdrech wedi ennyn edmygedd ei gymuned newydd.\n\nYn ôl Siôn Meredith, mae’r berthynas rhwng gwirfoddolwyr a’r ffoaduriaid yn gyfartal: “’Dyn ni wedi derbyn mwy nag rydyn ni wedi’i roi.”"
131
+ },
132
+ {
133
+ "title": "Uned 5 – Ffoaduriaid ac Brotest Iaith – Sgwrs (De)",
134
+ "lang": "cy",
135
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
136
+ "format": "dialogue-level",
137
+ "category": "reference",
138
+ "cefr_level": "B2",
139
+ "license": "public",
140
+ "text": "Pennaeth: Dewch i mewn.\nSam: Diolch. Mae’n flin gyda fi dorri ar eich traws chi. Oes munud gyda chi, os gwelwch chi’n dda?\nPennaeth: Wrth gwrs. Eisteddwch. Gobeithio eich bod chi ddim eisiau codiad cyflog.\nSam: Na, dim heddiw, beth bynnag. Ro’n i am gael sgwrs am fy amgylchiadau personol i ar hyn o bryd a gofyn a fyddech chi’n gallu bod yn hyblyg gyda fi.\nPennaeth: Eich mam chi, ife? Sut mae hi?\nSam: Ddim yn rhy dda, a dweud y gwir. Mae ei chyflwr hi wedi dirywio dros yr wythnosau diwetha. Yn ogystal â’r broblem ar ei hysgyfaint sy’n golygu ei bod hi’n cael gwaith anadlu, mae hi’n gloff iawn erbyn hyn hefyd.\nPennaeth: Mae’n flin gyda fi glywed. Gobeithio ei bod hi ddim mewn gormod o boen.\nSam: Nac ydy, diolch byth. Mae’r tabledi’n llwyddo i leddfu’r boen. Dw i am iddi hi fyw yn annibynnol cyn hired â phosib. Mae’r ddarpariaeth gofal yn dda iawn – mae pobl yn dod ati hi bedair gwaith y dydd. Ond hoffwn i allu helpu mwy.\nPennaeth: Felly, beth dych chi’n ei awgrymu?\nSam: Hoffwn i fynd ati hi bob penwythnos. Gan fod y daith yn gant a hanner o filltiroedd un ffordd, ro’n i’n meddwl tybed fyddech chi’n fodlon i fi weithio fy oriau i i gyd mewn pedwar diwrnod.\nPennaeth: Dw i’n cymeradwyo eich ymroddiad chi i’ch mam. Dyw eich cais chi ddim yn afresymol, felly beth am gytuno ar dri mis yn y lle cynta, ar yr amod, wrth gwrs, y bydd angen gweithio pum niwrnod os bydd argyfwng yn y swyddfa.\nSam: Diolch o galon – mae hynny mor garedig. A bydda i ar gael ar ebost bob dydd Gwener hefyd.\nPennaeth: Dw i’n gwybod hynny, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau i beidio â chysylltu – mae eich lles chi’n bwysig hefyd."
141
+ },
142
+ {
143
+ "title": "Uned 5 – Ffoaduriaid ac Brotest Iaith – Sgwrs (Gogledd)",
144
+ "lang": "cy",
145
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
146
+ "format": "dialogue-level",
147
+ "category": "reference",
148
+ "cefr_level": "B2",
149
+ "license": "public",
150
+ "text": "Pennaeth: Dewch i mewn.\nSam: Diolch. Mae’n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi. Sgynnoch chi funud, os gwelwch chi’n dda?\nPennaeth: Wrth gwrs. Eisteddwch. Gobeithio eich bod chi ddim eisiau codiad cyflog.\nSam: Na, dim heddiw, beth bynnag. Ro’n i am gael sgwrs am fy amgylchiadau personol i ar hyn o bryd a gofyn a fasech chi’n medru bod yn hyblyg efo fi.\nPennaeth: Eich mam chi, ia? Sut mae hi?\nSam: Ddim yn rhy dda, a deud y gwir. Mae ei chyflwr hi wedi dirywio dros yr wythnosau diwetha. Yn ogystal â’r broblem ar ei hysgyfaint sy’n golygu ei bod hi’n cael trafferth anadlu, mae hi’n gloff iawn erbyn hyn hefyd.\nPennaeth: Mae’n ddrwg gen i glywed. Gobeithio ei bod hi ddim mewn gormod o boen.\nSam: Nac ydy, diolch byth. Mae’r tabledi’n llwyddo i leddfu’r boen. Dw i am iddi hi fyw yn annibynnol cyn hired â phosib. Mae’r ddarpariaeth gofal yn dda iawn – mae pobl yn dod ati hi bedair gwaith y dydd. Ond liciwn i fedru helpu mwy.\nPennaeth: Felly, be dach chi’n ei awgrymu?\nSam: Liciwn i fynd ati hi bob penwythnos a deud y gwir. Gan fod y daith yn gant a hanner o filltiroedd un ffordd, ro’n i’n meddwl tybed fasech chi’n fodlon i mi weithio fy oriau i i gyd mewn pedwar diwrnod?\nPennaeth: Dw i’n cymeradwyo eich ymroddiad chi i’ch mam. Dydy eich cais chi ddim yn afresymol, felly be am gytuno ar dri mis yn y lle cynta, ar yr amod, wrth gwrs, y bydd angen gweithio pum niwrnod os bydd argyfwng yn y swyddfa.\nSam: Diolch o galon – mae hynny mor garedig. Ac mi fydda i ar gael ar ebost bob dydd Gwener hefyd, wrth gwrs.\nPennaeth: Dw i’n gwybod hynny, ond mi fyddwn ni’n gwneud ein gorau i beidio â chysylltu – mae eich lles chi’n bwysig hefyd."
151
+ },
152
+ {
153
+ "title": "Uned 5 – Ffoaduriaid ac Brotest Iaith – Help llaw – Cymraeg ffurfiol – Brawddegau negyddol",
154
+ "lang": "cy",
155
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
156
+ "format": "sentence-level",
157
+ "category": "reference",
158
+ "cefr_level": "B2",
159
+ "license": "public",
160
+ "text": "Ni fwriadaf gwyno.\nNi chyrhaeddodd mewn pryd.\nNid oedd gwrthwynebiad.\nNid oes twf yn yr economi.\nNi fydd ymchwiliad gan yr heddlu.\nNi fydd y lein yn cael ei thrydaneiddio.\nNi wn beth i’w wneud."
161
+ },
162
+ {
163
+ "title": "Uned 5 – Ffoaduriaid ac Brotest Iaith – Darllen – Cefndir – Protest iaith a Thryweryn",
164
+ "lang": "cy",
165
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
166
+ "format": "paragraph-level",
167
+ "category": "reference",
168
+ "cefr_level": "B2",
169
+ "license": "public",
170
+ "text": "Yn ystod y 1960au cafwyd ffrwydrad o wrthryfel gan bobl ifanc yn erbyn yr hen gyfundrefnau a’r hen ffyrdd o feddwl. Roedd Cymdeithas yr Iaith yn fynegiant Cymraeg a Chymreig o’r ysbryd hwnnw. Cyn cyfnod Cymdeithas yr Iaith, roedd y Gymraeg yn cael ei chysylltu ag hen bobl a phopeth oedd yn marw. Roedd pobl fel Saunders Lewis, Gareth Miles a Ffred Ffransis yn galw am weithredu uniongyrchol i warchod yr iaith.\n\nYn yr un cyfnod, yn 1956, penderfynodd Corfforaeth Lerpwl foddi Cwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi’r ddinas â dŵr. Roedd pentref Capel Celyn i ddiflannu dan y dŵr, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan bobl Cymru. Roedd yr achos hwn yn drobwynt ym myd gwleidyddiaeth Gymreig, gan ysgogi ymdeimlad newydd o hunaniaeth a balchder cenedlaethol. Er mor bwerus oedd anerchiad Gwynfor Evans gerbron y Gorfforaeth, ni newidiodd meddyliau’r awdurdodau, a foddwyd y pentref ym 1965.\n\nHeddiw, mae Capel Celyn a Thryweryn yn symbol o wrthwynebiad di-drais, ac yn atgof parhaol o’r frwydr dros yr iaith a hawliau Cymru."
171
+ },
172
+ {
173
+ "title": "Uned 6 – Darllen a Siaradwch – Cosbi neu Glodfori Annibyniaeth Barn yr Ifanc?",
174
+ "lang": "cy",
175
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
176
+ "format": "paragraph-level",
177
+ "category": "reference",
178
+ "cefr_level": "B2",
179
+ "license": "public",
180
+ "text": "Flynyddoedd maith yn ôl – mewn canrif wahanol, ac oes wahanol – ro’n i’n ddisgybl mewn ysgol gynradd. Er mor hir yn ôl, ac er mor ifanc oeddwn i ar y pryd, mae’r cof sydd gennyf am ffrae a gefais un diwrnod yn gwbl, gwbl glir.\n\nCefais i a chriw bach o fy ffrindiau ein galw i swyddfa’r Pennaeth, ac fe gawson ni stŵr go iawn. Dywedwyd wrthon ni ein bod yn ‘rhy fawr i’n sgidiau’, ac fe bwyntiwyd bys yn benodol ataf i am fod yn arbennig o ddrwg, am mai fi oedd ‘arweinydd’ y drwgweithredwyr.\n\nEin trosedd oedd trefnu deiseb yn gwrthwynebu penderfyniad yr ysgol i wahardd disgyblion rhag dod â brechdanau i’w bwyta amser cinio, a’n gorfodi i fwyta cinio ysgol yn lle hynny.\n\nMae’r digwyddiad hwnnw wedi dod i fy meddwl droeon dros y blynyddoedd mawr ers hynny, a dw i wedi rhyfeddu droeon na chafodd y criw bach yna o blant eu llongyfarch am eu safiad. Fyth ers hynny, mae penderfyniad yr ysgol i’n cosbi, yn hytrach na’n clodfori, am ein hannibyniaeth barn wedi fy anesmwytho. Dw i wedi pyslo’n reit aml a gafodd y stŵr a gawson ni’r diwrnod hwnnw effaith andwyol ar ein parodrwydd i gwestiynu’r drefn. Dw i wedi cwestiynu’n aml faint o blant, dros y blynyddoedd, y mae’r system addysg wedi bwrw’r rhuddin ohonynt.\n\nDw i wedi dwyn cysur, fodd bynnag, o’r gred fod y gyfundrefn addysg wedi newid ers hynny, a bod plant heddiw’n cael eu hannog i feddwl yn annibynnol – bod yr hen gred mai pethau i’w gweld, yn hytrach na’u clywed, yw plant wedi hen ddiflannu.\n\nSiom fawr iawn felly, oedd darllen am farn llawer o oedolion am safiad merch fach naw mlwydd oed yn Awstralia. Harper Nielsen yw enw’r ferch fach honno, ac fe wrthododd sefyll i’r anthem genedlaethol am ei bod yn cynnwys cyfeiriadau at Awstralia fel cenedl wen. ‘Mae’n diystyru’r Awstraliaid brodorol,’ dywedodd, ‘a oedd yno o’n blaenau ni.’ Bu’n rhaid iddi aros ar ôl yr ysgol yn gosb am wrthod sefyll a chanu’r gân. Yn hytrach na chanmol Harper am ei chonsýrn dros eraill; yn hytrach na chroesawu’r ffaith fod merch naw mlwydd oed yn ddigon aeddfed i resymu a chwestiynu, aeth rhai o wleidyddion Awstralia ati i’w chondemnio am ei ‘diffyg parch’ ac am fod yn ‘spoilt brat’, chwedl un gwleidydd. Aeth un mor bell â dweud bod y ferch wedi cael ei chyflyru gan eraill a’i bod yn haeddu cic yn ei phen ôl. Doedd pob gwleidydd ddim wedi bod mor feirniadol ohoni, ond eto dyna oedd agwedd llawer ohonynt. Fyddai hi ddim wedi cael yr un ymateb pe bai hi’n oedolyn... ond fyddai hi ddim wedi cael yr un sylw chwaith.\n\nMae ei safiad hi yn anferthol bwysicach na safiad y criw bach drwg ohonom a’n deiseb dros yr hawl i frechdan yn Llanelli ddegawdau yn ôl, ond roedd ganddyn nhw – ac mae ganddi hi – hawl i leisio barn. Yr un yw’r egwyddor, ac nid yw’r ffaith mai plant sy’n codi llais yn golygu bod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn anghywir neu’n ddibwys. Mae’r oes Fictoraidd wedi hen ddiflannu; ac mae’r syniad mai gwrthrychau i’w gweld a’u disgyblu yw plant, yn hytrach na phobl a chanddynt rywbeth gwerth ei ddweud wedi diflannu hefyd, gobeithio. Fydd neb arall yn cofio am brotest y brechdanau, ac efallai na fydd neb yn cofio enw Harper Nielsen ymhen blwyddyn neu ddwy, ond mae’n werth cofio’r stori y tro nesa y bydd plant yn herio’r drefn, waeth beth yw’r rheswm dros y brotest.\n\nFelly da iawn, Harper Nielsen. Llongyfarchiadau ar fod yn arweinydd dewr i ddrwgweithredwyr! A phaid â gadael i neb dy dawelu."
181
+ },
182
+ {
183
+ "title": "Uned 6 – Cyfieithu’r Beibl – Darllen – Y Beibl ac Addysg",
184
+ "lang": "cy",
185
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
186
+ "format": "paragraph-level",
187
+ "category": "reference",
188
+ "cefr_level": "B2",
189
+ "license": "public",
190
+ "text": "Cyn pen 200 mlynedd i gyfieithu’r Beibl, Cymru oedd un o’r gwledydd mwyaf llythrennog yn Ewrop a thua thri chwarter y boblogaeth yn gallu darllen. Roedd llawer mwy o lyfrau eraill yn cael eu cyhoeddi erbyn hynny; dim ond 108 o lyfrau gafodd eu cyhoeddi yn y Gymraeg rhwng 1546 ac 1660 ond cyhoeddwyd 2,500 o lyfrau rhwng 1700 ac 1799.\n\nTua 1731 cynigiodd dyn o’r enw Griffith Jones (1683–1761) y dylai ysgol i oedolion a phlant gael addysg Gymraeg ddechrau yn Llanddowror yn ne-orllewin Cymru. Erbyn 1737 roedd Griffith Jones yn hyfforddi athrawon i ddysgu 37 o ysgolion cylchynol a oedd yn teithio o gwmpas Cymru i ddysgu pobl i ddarllen ac ysgrifennu. Mewn cyfnod o chwarter canrif, cafodd 3,500 o ysgolion eu sefydlu a chafodd tua 200,000 o oedolion a phlant addysg ynddynt. Y Beibl oedd y prif lyfr a oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr athrawon i ddysgu’r bobl ac o ganlyniad i waith Griffith Jones, daeth y werin i ddarllen a deall iaith safonol y Beibl. Cyn pen tair blynedd iddo farw, roedd yr hanes am yr ysgolion wedi cyrraedd mor bell â Rwsia, ac yn 1764 cafodd adroddiad ar yr ysgolion ei gyflwyno gan gomisiynwr ar ran Catherine yr Ail, ymerodres y wlad honno.\n\nRoedd mwy o ysgolion Griffith Jones yn y de nag yn y gogledd, ond roedd ysgolion tebyg i’w cael yno hefyd. Bu dyn o’r enw Thomas Charles (1755–1814) yn cyflogi athrawon ac yn trefnu iddynt fynd oddi amgylch o gylch i gylch, gan aros ym mhob ardal am ychydig fisoedd ar y tro i ddysgu’r bobl i ddarllen. Disgybl un o’r ysgolion hyn oedd Mary Jones."
191
+ },
192
+ {
193
+ "title": "Uned 7 – Mudiadau Cymraeg – Darllen – Cefndir – Merched y Wawr",
194
+ "lang": "cy",
195
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
196
+ "format": "paragraph-level",
197
+ "category": "reference",
198
+ "cefr_level": "B2",
199
+ "license": "public",
200
+ "text": "Mudiad Cymraeg yw Merched y Wawr, sy’n rhoi cyfle i fenywod gymdeithasu a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw’n cynnal cyfarfodydd a llawer o weithgareddau amrywiol, ac yn cyhoeddi cylchgrawn Y Wawr bedair gwaith y flwyddyn.\n\nSyniad Zonia Bowen – Saesnes o Swydd Efrog a oedd wedi dysgu Cymraeg – oedd sefydlu Merched y Wawr. Roedd hi’n byw ym mhentref y Parc ger y Bala, ac yn aelod o gangen leol Sefydliad y Merched. Ond, fel rhai o aelodau eraill y gangen, roedd hi’n anhapus oherwydd bod Sefydliad y Merched yn gweithio trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Felly, yn 1967, sefydlwyd cangen gyntaf Merched y Wawr yn Y Parc. Erbyn hyn, mae dros 250 o ganghennau Merched y Wawr yng Nghymru, ac ers 1994 mae Clybiau Gwawr wedi’u sefydlu ar gyfer merched iau.\n\nYn ogystal â rhoi cyfle i fenywod gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Merched y Wawr hefyd yn gwneud gwaith dyngarol ac yn tynnu sylw at achosion sy’n ymwneud â lles menywod. Enghraifft o hyn oedd ymgyrch Bra i bawb o ferched y byd a gynhaliwyd ar y cyd ag Oxfam Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Bu’r ddau gorff yn cydweithio ar gynllun arloesol i ailgylchu pob bra a oedd bellach yn anaddas, a’u hanfon at ferched mewn gwledydd sy’n datblygu, lle mae galw mawr amdanynt. I dynnu sylw at yr ymgyrch, crëwyd cadwyn o 700 o fras o amgylch pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar, cynhaliodd y mudiad brosiect uwchgylchu ac ailddefnyddio."
201
+ },
202
+ {
203
+ "title": "Uned 7 – Mudiadau Cymraeg – Darllen – Cefndir – Mudiad Meithrin",
204
+ "lang": "cy",
205
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
206
+ "format": "paragraph-level",
207
+ "category": "reference",
208
+ "cefr_level": "B2",
209
+ "license": "public",
210
+ "text": "Mudiad Meithrin yw’r sefydliad sy’n hyrwyddo addysg feithrin trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Roedd dosbarthiadau meithrin gwirfoddol yn cael eu cynnal cyn sefydlu’r Mudiad, ond yn 1971 sefydlwyd y mudiad yn swyddogol fel Mudiad Ysgolion Meithrin gan menywod a theuluoedd a oedd am sicrhau bod addysg gynnar ar gael yn Gymraeg.\n\nRoedd y dosbarthiadau cyntaf wedi dechrau ym 1943 ym Mhontypridd, a chyn bo hir roedd yr ymgyrch am addysg Gymraeg gynnar wedi lledaenu ledled Cymru. Erbyn 1981, roedd y ddarpariaeth wedi tyfu’n sylweddol gyda channoedd o gylchoedd meithrin yn cynnig cyfleoedd i blant ifanc siarad Cymraeg cyn dechrau’r ysgol gynradd. Roedd effaith y mudiad yn amlwg yn y Cyfrifiad, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y plant tair i bedair oed oedd yn siarad Cymraeg.\n\nMae Mudiad Meithrin bellach yn cyflogi cannoedd o staff proffesiynol ac yn rheoli rhwydwaith o gylchoedd meithrin ac unedau integredig ledled Cymru. Mae’r Canolfannau Integredig yn cynnig gofal plant, addysg feithrin, a chymorth i rieni – gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd o’r cychwyn cyntaf."
211
+ },
212
+ {
213
+ "title": "Uned 8 – Y Wladfa – Darllen – Diwedd Ffasiwn Cyflym?",
214
+ "lang": "cy",
215
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
216
+ "format": "paragraph-level",
217
+ "category": "reference",
218
+ "cefr_level": "B2",
219
+ "license": "public",
220
+ "text": "Yng nghanol hwyl Wythnos Ffasiwn Llundain 2019, sioe wahanol iawn a hawliodd y penawdau, wrth i ddau gant o ymgyrchwyr Gwrthryfel Difodiant gynnal gorymdaith angladdol drwy strydoedd y ddinas. Eu nod oedd tynnu sylw at effaith y diwydiant ffasiwn ar yr amgylchedd a beirniadu system wastraffus sy’n annog pobl i brynu gormod o ddillad. Ond a yw hynny’n deg? Wedi’r cyfan, mae’r diwydiant ffasiwn yn talu £32 biliwn o drethi bob blwyddyn, mewn cyfnod digon anodd i economi Prydain.\n\nGan amlaf, ‘ffasiwn cyflym’ sydd dan lach yr amgylcheddwyr. Dillad rhad yw’r rhain a gynhyrchir ar raddfa eang, i adlewyrchu ffasiynau diweddaraf y dylunwyr mawr. Mae ‘cyflym’ hefyd yn cyfeirio at hyd oes y dillad: cânt eu gwisgo tua saith gwaith, cyn mynd i siop elusen neu’n amlach na pheidio, i’r bin sbwriel. Yn ôl DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig), anfonwyd tua 895,000 o dunelli o ddillad i safleoedd tirlenwi yn 2016. Yn aml, mae dillad rhad yn cynnwys gronynnau o blastig a llifynnau artiffisial sy’n llygru’r amgylchedd. Pam felly targedu dylunwyr haute couture yn Wythnos Ffasiwn Llundain? Wel, er bod ansawdd a gwneuthuriad eu dillad yn well, mae cynhyrchu, golchi a sychlanhau dillad o bob math yn rhoi straen enfawr ar ein hecosystem. Ac wrth gwrs, dylunwyr haute couture sy’n creu’r ffasiynau ac yn bwydo chwant prynwyr am ffasiwn cyflym. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r diwydiant ffasiwn yn defnyddio mwy o ynni na’r diwydiant awyrennau a’r diwydiant llongau gyda’i gilydd.\n\nFfenomen gymharol newydd yw ffasiwn cyflym yn ôl y steilydd ffasiwn, Helen Angharad Humphreys. “Tua ugain mlynedd yn ôl, byddai siopau’n rhyddhau dau gasgliad o ddillad y flwyddyn. Roedden ni’n prynu dillad yn llai aml, ac yn prynu pethau oedd yn para’n hirach. Ond nawr, mae rhai siopau mawr yn rhyddhau deuddeg casgliad neu fwy, a phobl yn disgwyl cael ffasiynau’r catwalk yn syth. ’Dyn ni’n byw mewn byd lle mae delwedd yn hollbwysig, lle mae pobl yn rhannu lluniau o’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddi-baid, ac maen nhw eisiau cael eu gweld yn gwisgo’r pethau ‘iawn’.”\n\nYn ogystal ag effeithio ar yr amgylchedd, esbonia Helen fod ffasiwn cyflym hefyd yn rhoi pwysau ofnadwy ar weithwyr mewn ffatrïoedd dillad. “Yn y gorffennol, byddai dillad prif siopau’r stryd fawr yn cael eu gwneud ym Mhrydain dan amodau da, gan weithwyr oedd wedi datblygu sgiliau arbennig. Roedd llawer o ffatrïoedd dillad yng Nghymru, fel Dewhurst yn Llanbed. Mae hynny i gyd wedi’i golli nawr. Ond, ar ôl trychineb Rana Plaza yn Bangladesh yn 2013 pan ddymchwelodd ffatri ddillad enfawr gan ladd dros 1,000 ac anafu 2,500 o weithwyr, dechreuodd pobl feddwl o ddifri am eu dillad: ble cawson nhw eu gwneud? Pwy wnaeth nhw? Wedyn, cafodd mudiad Fashion Revolution ei sefydlu, sy’n craffu ar gwmnïau dillad mawr. Erbyn hyn, mae cwmnïau fel Adidas wedi trawsnewid eu dull o weithio ac yn awyddus i fod yn un o enghreifftiau da Fashion Revolution.”\n\nYn ôl Helen Humphreys, mae’n rhaid i’r diwydiant ffasiwn newid er mwyn goroesi. “Er bod llawer o bobl ifanc yn mwynhau prynu dillad rhad, mae llawer hefyd yn ymwybodol iawn o broblemau’r amgylchedd ac yn chwilio am brofiadau diddorol wrth siopa. Ar wefannau poblogaidd fel Ebay a Depop, gallwch chi werthu hen ddillad a phrynu dillad ail-law yn rhwydd, ac mae ’na rai yn rhagweld y bydd y ffordd yma o siopa’n fwy poblogaidd na ffasiwn cyflym cyn hir. Mae hi hefyd yn fwy derbyniol i chi gael eich gweld yn gwisgo’r un dillad ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae addasu hen ddillad yn arwydd o greadigrwydd a steil unigryw.”\n\n“Dw i’n sylweddoli ei bod hi’n anodd,” medd hi. “Dw i’n gwrthod mynd i rai siopau rhad am resymau moesegol, ond dyw’r dewis yna ddim ar gael i bawb ac mae rhai mathau o ddillad, fel gwisg ysgol, yn anodd eu cael mewn siop elusen neu ar Ebay. Ar Ebay fe ddewch chi o hyd i ddillad da gan gwmnïau sy’n parchu eu gweithwyr a’r amgylchedd. Hefyd, os ewch chi i siop elusen y dyddiau hyn, mae cymaint o stoc ganddyn nhw fel eu bod nhw’n gallu arddangos dillad mewn ffordd ddiddorol a chreadigol, sy’n ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i rywbeth sydd at eich dant chi.”\n\nAmser a ddengys, ond efallai fod oes ffasiwn cyflym yn dirwyn i ben."
221
+ },
222
+ {
223
+ "title": "Uned 9 – Yr Hen Ogledd a’r Hengerdd – Darllen – Tynfa",
224
+ "lang": "cy",
225
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
226
+ "format": "paragraph-level",
227
+ "category": "reference",
228
+ "cefr_level": "B2",
229
+ "license": "public",
230
+ "text": "Ar ddiwrnod gêm yng Nghaerdydd, mae’n debyg fod rhyw 300,000 o bobl yn heidio yno er mwyn cael eu gwasgu i gorneli tafarndai neu gael eu boddi yn nhyrfa’r stadiwm. Bydd rhai wedi teithio siwrne o dros bedair awr er mwyn cael y fraint o giwio am hanner awr wrth bob bar. Bydd pob tafarn yn troi’n gôr, a’r aelodau’n meddwi ar eu Cymreictod ac yn bodloni’r ysfa honno i fod yng nghanol yr hwyl. Yn bodloni’r dynfa tuag at drydan a goleuadau’r brifddinas. A phwy fyddai’n gweld bai ar y gwyfynod sydd wedi eu denu yno ac sydd eisiau blasu’r awyrgylch a’r cwrw?\n\nMae sawl un yn cael eu tynnu i Gaerdydd; i gyfnewid gwynt y môr neu wyrddni’r caeau am ruthr, gwefr, a lampau’r brifddinas, yn ddall i strydoedd budron ac yn fyddar i suo seirenau. Mae hi’n hawdd dychmygu delfrydau’r ddinas fawr wen heb lawn sylweddoli bod yn rhaid caledu i fywyd Caerdydd.\n\nDydi’r dynfa at fywyd dinas yn ddim byd newydd, wrth gwrs; mae dadl y pridd a’r concrid yn hen gyfarwydd inni yng Nghymru, ond er hynny mae’r dynfa hon yn rhywbeth creiddiol ynom ni, bron. Yr awydd hwnnw i glosio at y man lle mae pobl yn ymgasglu ac yn ffurfio cymunedau, a’r mwyaf o bobl sydd mewn un lle, y mwyaf o gyfleusterau, cyfleoedd, buddsoddiad, adloniant, amrywiaeth a safon sydd ar gynnig. Os hedfanwch chi a hithau’n nosi a’r awyr yn glir, gallwch weld map drwy ffenest yr awyren sy’n tystio i’r dynfa naturiol honno mewn pobl i glosio at ei gilydd. Mae trefi a phentrefi yn ymddangos yn bocedi o olau yng nghanol y düwch, yn brawf fod cymunedau wedi eu ffurfio dros ganrifoedd ac wedi hen sefydlu bellach.\n\nMae yno ryw ysfa i adael cartref yn nifer ohonom ni, ond mae yno dynfa hefyd o hyd i ddychwelyd adref, dod yn ôl at y tir cyfarwydd, y lle hwnnw sy’n perthyn i ni. Boed hynny o deithio’r byd neu o symud i fyw i ganol mwg a llwch tref neu ddinas, yn aml iawn mae yna rywle sy’n ein galw ni’n ôl. Ac weithiau mae angen hynny arnom ni; mae angen inni ddychwelyd yn llythrennol at ein gwreiddiau, at y dŵr a’r pridd, er mwyn inni allu anadlu eto. Â’r mor a’r mynyddoedd yn rhan o hunaniaeth ac isymwybod nifer o bobl a gafodd eu geni a’u magu mewn ardaloedd mwy gwledig, mae dychwelyd at yr hen olygfeydd cyfarwydd yn gallu bod yn llesol, a’n cynefin yn gallu bod yn encil ac yn bwerdy i’r corff a’r meddwl. Mae troedio hen lwybrau’n troi’n ddefod: oedi i dynnu llun ar y ffôn, ei rannu ar Instagram, a rhyfeddu bob tro o’r newydd ar harddwch yr ardal mae rhywun wedi troi ei gefn arni."
231
+ },
232
+ {
233
+ "title": "Uned 9 – Yr Hen Ogledd a’r Hengerdd – Deialog (De)",
234
+ "lang": "cy",
235
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
236
+ "format": "dialogue-level",
237
+ "category": "reference",
238
+ "cefr_level": "B2",
239
+ "license": "public",
240
+ "text": "A: Beth sy ’na i de heno? Oes bolognese ar ôl?\nB: Nac oes, mae e i gyd wedi’i fwyta.\nA: Beth arall sy ’na?\nB: Mae digon o wyau. Beth am wy wedi’i ffrio? Wy wedi’i ferwi? Neu omlet?\nA: Dim diolch. Ces i frechdan wy i ginio.\nB: Mae tatws newydd Jane drws nesa yma. Wedi’u codi o’r ddaear ddoe, meddai hi. Beth am datws wedi’u berwi a digon o fenyn?\nA: Hyfryd. Ond beth sydd i fynd gyda nhw? Oes ham?\nB: Does dim ham. Mae e wedi mynd i’r bin bwyd. Roedd e yma ers wythnosau.\nA: Allwn ni ddim bwyta dim ond tatws. Bydd rhaid i fi fynd i brynu rhywbeth.\nB: Beth am bysgodyn wedi’i ffrio, sglodion wedi’u gorchuddio â halen a finegr a sos coch, a’r cyfan wedi’i lapio mewn papur?\nA: Bendigedig. Af i i’r siop sglodion nawr."
241
+ },
242
+ {
243
+ "title": "Uned 9 – Yr Hen Ogledd a’r Hengerdd – Deialog (Gogledd)",
244
+ "lang": "cy",
245
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
246
+ "format": "dialogue-level",
247
+ "category": "reference",
248
+ "cefr_level": "B2",
249
+ "license": "public",
250
+ "text": "A: Be sy ’na i de heno? Oes ’na bolognese ar ôl?\nB: Nac oes, mae o i gyd wedi’i fwyta.\nA: Be arall sy ’na?\nB: Mae ’na ddigon o wyau. Be am wy wedi’i ffrio? Wy wedi’i ferwi? Neu omlet?\nA: Dim diolch. Mi ges i frechdan wy i ginio.\nB: Mae tatws newydd Jane drws nesa yma. Wedi’u codi o’r ddaear ddoe, meddai hi. Be am datws wedi’u berwi a digon o fenyn?\nA: Hyfryd. Ond be sy ’na i fynd efo nhw? Oes ’na ham?\nB: Does ’na ddim ham. Mae o wedi mynd i’r bin bwyd. Roedd o yma ers wythnosau.\nA: Fedrwn ni ddim bwyta dim ond tatws. Mi fydd rhaid i mi fynd i brynu rhywbeth.\nB: Be am bysgodyn wedi’i ffrio, sglodion wedi’u gorchuddio â halen a finegr a sôs coch, a’r cyfan wedi’i lapio mewn papur?\nA: Bendigedig. A i i’r siop sglodion rŵan."
251
+ },
252
+ {
253
+ "title": "Uned 9 – Yr Hen Ogledd a’r Hengerdd – Help llaw – wedi’i / wedi’u",
254
+ "lang": "cy",
255
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
256
+ "format": "sentence-level",
257
+ "category": "reference",
258
+ "cefr_level": "B2",
259
+ "license": "public",
260
+ "text": "Mae wedi’i yn golygu ‘which has been’, e.e. wy wedi’i ferwi.\nMae wedi’u yn golygu ‘which have been’, e.e. ffyrdd wedi’u trwsio.\nOs yw’r enw yn wrywaidd, mae treiglad meddal ar ôl wedi’i: bwyd wedi’i rewi.\nOs yw’r enw yn fenywaidd, does dim treiglad meddal: merch wedi’i fabwysiadu.\nAr ôl wedi’u, does dim treiglad ond mae h o flaen llafariad: tai wedi’u hadeiladu o frics."
261
+ },
262
+ {
263
+ "title": "Uned 9 – Yr Hen Ogledd a’r Hengerdd – Cymraeg ffurfiol – Rhagenwau",
264
+ "lang": "cy",
265
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
266
+ "format": "sentence-level",
267
+ "category": "reference",
268
+ "cefr_level": "B2",
269
+ "license": "public",
270
+ "text": "i’m o’m a’m gyda’m\ni’th o’th a’th gyda’th\ni’w o’i a’i gyda’i\ni’n o’n a’n gyda’n\ni’ch o’ch a’ch gyda’ch\ni’w o’u a’u gyda’u"
271
+ },
272
+ {
273
+ "title": "Uned 10 – Nadolig a’r Calan – Darllen – Cefndir – Noson Gyflaith",
274
+ "lang": "cy",
275
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
276
+ "format": "paragraph-level",
277
+ "category": "reference",
278
+ "cefr_level": "B2",
279
+ "license": "public",
280
+ "text": "Arfer traddodiadol i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd oedd cynnal Noson Gyflaith. Roedd teuluoedd yn gwahodd ffrindiau i’w cartrefi am swper mawr – gŵydd a phwdin Nadolig fel arfer. Wedyn, roedden nhw’n canu, yn adrodd storïau ac yna’n gwneud cyflaith. I ddechrau, roedd yn rhaid berwi’r cynhwysion, sef triog du, triog melyn, siwgr gwyn a menyn. Wedyn, roedden nhw’n iro llechen neu garreg wastad, ac yn arllwys y gymysgedd arni hi. Roedd pawb yn tynnu’r cyflaith tra oedd yn dal yn gynnes, gan geisio ymestyn y darnau hirion nes eu bod fel rhaffau melyn. Roedd pawb yn cael tipyn o hwyl wrth weld ymdrechion trychinebus y rhai dibrofiad."
281
+ },
282
+ {
283
+ "title": "Uned 10 – Nadolig a’r Calan – Darllen – Cefndir – Canu Calennig",
284
+ "lang": "cy",
285
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
286
+ "format": "paragraph-level",
287
+ "category": "reference",
288
+ "cefr_level": "B2",
289
+ "license": "public",
290
+ "text": "Mae’r arfer o gael anrhegion ar Ddydd Calan yn hen iawn. Yng Nghymru, yr enw ar yr arfer yma yw casglu calennig, neu ganu calennig. Hyd heddiw, yn gynnar ar Ddydd Calan fe welwch chi blant yn mynd o dŷ i dŷ i ddymuno iechyd a llwyddiant i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd. Byddan nhw’n canu penillion arbennig i’r bobl sy’n eu croesawu, ac yna’n cael arian neu losin cyn mynd ymlaen i’r tŷ nesaf. Yn y gorffennol roedd plant yn cario afalau wedi’u haddurno ag ŷd a dail bytholwyrdd, yn symbol o iechyd a llwyddiant. Dyma un o’r penillion mwyaf poblogaidd:\nBlwyddyn Newydd Dda i chi,\nAc i bawb sydd yn y tŷ,\nDyma yw’n dymuniad chi,\nBlwyddyn Newydd Dda i chi."
291
+ },
292
+ {
293
+ "title": "Uned 10 – Nadolig a’r Calan – Darllen – Cefndir – Yr Hen Galan",
294
+ "lang": "cy",
295
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
296
+ "format": "paragraph-level",
297
+ "category": "reference",
298
+ "cefr_level": "B2",
299
+ "license": "public",
300
+ "text": "Traddodiad diddorol sy’n parhau yng Nghwm Gwaun yw dathlu’r Hen Galan, sef dathlu’r flwyddyn newydd ar Ionawr 13fed. Dyna pryd arferai pobl ddathlu’r Calan dan y calendr Iwlaidd. Yn 1752, cafodd y calendr Iwlaidd ei ddisodli gan y calendr Gregoraidd, ond roedd pobl Cwm Gwaun yn amharod i dderbyn y newid hwn. Yn yr un ffordd â’r Canu Calennig ar Ionawr y cyntaf, bydd plant Cwm Gwaun yn mynd o dŷ i dŷ yn canu i ddymuno iechyd a llwyddiant i bawb, ac yn cael arian neu losin yn wobr. Bydd oedolion yn dathlu gyda’i gilydd yn nhafarn enwog y Dyffryn Arms, sydd yn yr un teulu ers 1840. Yn y gorffennol, roedd yr Hen Galan yn fwy o ddathliad na’r Nadolig, felly roedd twrci neu ŵydd i ginio yn gyffredin."
301
+ },
302
+ {
303
+ "title": "Uned 10 – Nadolig a’r Calan – Darllen – Cefndir – Hela’r Dryw",
304
+ "lang": "cy",
305
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
306
+ "format": "paragraph-level",
307
+ "category": "reference",
308
+ "cefr_level": "B2",
309
+ "license": "public",
310
+ "text": "Roedd hela’r dryw yn ddefod boblogaidd drwy’r gwledydd Celtaidd. Roedd criw o ddynion yn dal dryw ac yn ei gadw mewn blwch neu gawell wedi’i addurno â rhubanau a dail bytholwyrdd. Roedden nhw wedyn yn mynd o dŷ i dŷ gyda’r dryw, i ofyn am fwyd, diod neu arian. Roedd yr arfer yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol i ddathlu duw’r goleuni drwy aberthu’r dryw bach. Mae’n dilyn diwrnod byrraf y flwyddyn, ac yn ddathliad o ddychweliad yr haul. Yn y traddodiad, y dryw – yr aderyn lleiaf – yw brenin yr adar. Daeth yr arfer i ben tua 1890 oherwydd ymgyrchwyr a oedd yn erbyn creulondeb tuag at anifeiliaid."
311
+ },
312
+ {
313
+ "title": "Uned 10 – Nadolig a’r Calan – Help llaw – Enwau gwrywaidd a benywaidd",
314
+ "lang": "cy",
315
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
316
+ "format": "sentence-level",
317
+ "category": "reference",
318
+ "cefr_level": "B2",
319
+ "license": "public",
320
+ "text": "Mae dwy ran o dair o enwau Cymraeg yn rhai gwrywaidd.\nEnghreifftiau o enwau gwrywaidd: dydd Llun, mis Mawrth, cotwm, lledr, nwy, coffi, trwyn, pen, bys, bryn, llyn, bws, rygbi.\nEnghreifftiau o enwau benywaidd: nos Lun, afon Taf, derwen, Cymru, tref, llong, ton, esgid, het, sgarff, braich, coes.\nRheol gyffredinol: mae geiriau sy’n cynnwys e neu o yn dueddol o fod yn fenywaidd, ac mae geiriau sy’n cynnwys y neu w yn dueddol o fod yn wrywaidd."
321
+ },
322
+ {
323
+ "title": "Uned 1 – Yn llygad dy le – Darllen – Llythyr 1 – Elen Morus at Bennaeth y Brifysgol",
324
+ "lang": "cy",
325
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
326
+ "format": "paragraph-level",
327
+ "category": "reference",
328
+ "cefr_level": "B2",
329
+ "license": "public",
330
+ "text": "Annwyl Syr,\nYsgrifennaf i fynegi fy mhryder ynglŷn â’r bygythiad i neuadd Ann Griffiths. Mae straeon ar led ers tro am ddyfodol y neuadd, ac ar ran Cymdeithas Gymraeg y myfyrwyr, hoffwn ddatgan ein bod yn gwrthwynebu cau’r neuadd yn chwyrn.\n\nDim ond lleiafrif o blith y myfyrwyr sy’n dod o’r tu hwnt i glawdd Offa, ond mae’n ymddangos i ni fod y brifysgol yn rhoi mwy o bwyslais ar gadw’r garfan honno’n hapus na dim byd arall. Y garfan sy’n byw yn neuadd Ann Griffiths yw’r olaf i gael gwybod beth sy’n digwydd, a’r neuadd ei hun yw’r olaf i gael sylw. Pe bai’r brifysgol wedi gwneud gwaith cynnal a chadw arni dros y blynyddoedd, fyddai dim angen gwneud cymaint o waith arni erbyn heddiw.\n\nMae trigolion y neuadd yn pryderu’n fawr beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r haf. Mae rhai wedi cael ar ddeall fod angen iddyn nhw chwilio am lety preifat yn y dref, ond mae eraill heb glywed dim. Rhaid i ni gael gwybod cyn i bawb fynd adre dros wyliau’r haf neu bydd hi’n draed moch ym mis Hydref. Mae’n hollbwysig bod y myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn cael llety yn yr un neuadd, a neuadd Ann Griffiths yw cartref y myfyrwyr hynny ers degawdau bellach. Trwy chwalu’r gymdeithas honno, bydd y myfyrwyr Cymraeg yn cael eu rhannu a’u gwahanu ac yn llai tebygol o gael hyd i gyfeillion (a phartneriaid) trwy gyfrwng eu hiaith. Os yw’r Gymraeg yn bwysig o gwbl i’r brifysgol, mae angen gwarchod enw’r neuadd a’i chadw fel lle y mae disgwyl i’w drigolion siarad Cymraeg. Mae storïau yn y wasg eich bod yn bwriadu newid yr enw i Neuadd y Tywysog Wiliam; mae’n rhaid i chi sylweddoli y byddai hyn yn cynddeiriogi pawb ymhellach.\n\nOs oes rhaid cau’r neuadd er mwyn gweithio arni, a wnewch ein sicrhau mai rhywbeth dros dro fydd hynny, ac y bydd enw a thraddodiad Ann Griffiths yn cael eu cynnal er lles y brifysgol a’r iaith? Mae’r myfyrwyr yn benderfynol o gynyddu’r protestio hyd nes i awdurdodau’r brifysgol ddod at eu coed. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb i’r llythyr hwn.\n\nYn gywir,\nElen Morus\nCymdeithas Gymraeg\nNeuadd Ann Griffiths"
331
+ },
332
+ {
333
+ "title": "Uned 1 – Yn llygad dy le – Darllen – Llythyr 2 – Pennaeth y Brifysgol at Elen Morus",
334
+ "lang": "cy",
335
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
336
+ "format": "paragraph-level",
337
+ "category": "reference",
338
+ "cefr_level": "B2",
339
+ "license": "public",
340
+ "text": "Annwyl Ms Morus,\nDiolch am eich llythyr am ddyfodol neuadd Ann Griffiths. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dawelu rhai o’ch pryderon ac i gywiro rhai camsyniadau. Rhaid cyfaddef bod y protestiadau diweddar wedi peri syndod i’r brifysgol ac i minnau, yn enwedig gan na ddaeth llawer o sylwadau negyddol i’r fei drwy’r holiadur a anfonwyd at y myfyrwyr y llynedd. Roedd y mwyafrif i’w gweld yn fodlon â’r hyn roedd y brifysgol yn ei wneud.\n\nFel yr awgrymir yn eich llythyr, mae gwir angen gwneud gwaith ar yr adeilad gan nad yw bellach yn addas i letya myfyrwyr. Os ydyn ni’n mynd i ddenu mwy o fyfyrwyr o Loegr neu o dramor, rhaid i ni wella ansawdd yr ystafelloedd. Hoffwn eich sicrhau na fydd myfyrwyr yn gorfod chwilio am dai preifat yn y dref y flwyddyn nesaf, gan fod cynllun gennym i addasu dwy neuadd lai, a dylai’r rhain fod yn barod erbyn mis Medi. Rydych yn llygad eich lle: bydd rhaid rhoi gwybod i’r myfyrwyr presennol mewn da bryd, a byddwn yn gwneud hynny dros yr wythnosau hynny cyn bod y tymor yn dod i ben.\n\nTestun gofid oedd y protestio a fu yn swyddfeydd canolog y brifysgol yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, rydym yn parchu hawl myfyrwyr i brotestio’n heddychlon, i ddwyn pwysau trwy ddeiseb ac ati, ond roedd peintio sloganau ar y waliau dros nos yn annerbyniol. Mae’r heddlu’n ymchwilio ac mae ganddynt dystiolaeth fideo o’r hyn a ddigwyddodd. Os bydd tystiolaeth yn dod i’r amlwg eich bod yn rhan o brotest anghyfreithlon, fyddwch chi ddim cael ymuno â chwrs ôl-radd addysg yma. Ni all y brifysgol oddef protestiadau treisgar, a byddwn yn cydweithio â’r heddlu i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu herlyn.\n\nGallaf gywiro un camargraff. Fydd yr enw ‘Neuadd Ann Griffiths’ ddim yn cael ei newid, fel yr awgrymwyd mewn stori wirion yn y papur lleol yn ddiweddar – byddai hynny’n loes calon i mi’n bersonol. Da chi, peidiwch â chredu pob dim sy’n cael ei ddweud na’i ysgrifennu yn y wasg ac edrychwn ymlaen at gyd-drafod dyfodol y neuadd er lles y brifysgol a’r myfyrwyr.\n\nYr eiddoch yn gywir,\nJohn Morgan\nPennaeth Prifysgol y Llan"
341
+ },
342
+ {
343
+ "title": "Uned 2 – Y Selar – Darllen – Ffion yn y Selar",
344
+ "lang": "cy",
345
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
346
+ "format": "paragraph-level",
347
+ "category": "reference",
348
+ "cefr_level": "B2",
349
+ "license": "public",
350
+ "text": "Safai Ffion yn nrws y Selar ar Stryd y Farchnad. Roedd y dafarn wedi newid ei henw dair gwaith ers i Ffion ddechrau yn y coleg. Bar pŵl ydoedd ar y dechrau, ac yna fe’i trawsnewidiwyd yn far coctels ac, yn fwyaf diweddar, yn dafarn gyffredin ac ynddi ddigon o le yn ei phrif ystafell i gynnal gigs. Dôi sŵn band ifanc o’r llwyfan yng nghefn yr adeilad, gitâr trwm yn rhwygo riff aflonydd o gofiadwy drwy’r adeilad.\n\nWedi i Ffion feddwl am y peth, roedd y lle wedi newid ei enw bron yr un faint o weithiau ag yr oedd hi wedi newid ei chriw ffrindiau. Ymuno’n betrus oedd ei harfer, a rhyw lynu wrth un neu ddwy gyfeillgar cyn araf lithro o’u sylw a thaflu rhaff at haid arall o ferched nad oedd hi ond yn eu lled-adnabod. Roedd y criw diweddaraf rywle wrth y bar neu o flaen y llwyfan neu wedi symud ymlaen i’r Llew, efallai. Doedd Ffion ddim yn siŵr. Safai’r smociwrs ar y pafin y tu ôl iddi’n clebran ac yn chwerthin ar ryw feddwyn ansicr ei gam a oedd wedi straffaglu allan o’r Court Royale ar ochr arall y sgwâr. Roedd Ffion wedi cynnau digonedd o sigaréts dros y blynyddoedd, ac wedi rhoi’r gorau iddi bob tro rhag dihysbyddu ei chyfrif banc. Ciledrychdodd yn genfigennus ar y giwed fyglyd. Roedd gan smociwr wastad gwmni parod. Ond doedd fiw iddi wneud, a hithau’n gwybod ers tro fod yr arian a’i cadwai yn y coleg yn brin.\n\nDaeth y gân i ben gyda sŵn cymeradwyo ac ambell sgrech. Roedd Ffion ar fin dychwelyd i’r bar am botelaid arall pan deimlodd ei ffôn yn dirgrynu yn ei phoced. Gwelodd enw ei thad. Gwgodd ar y sgrin fechan. Roedd hi wedi anghofio ei ffonio’r prynhawn hwnnw fel yr addawsai ac, ar ben hynny, roedd hi wedi dechrau meddwi. Nos Wener oedd hi wedi’r cyfan, ac roedd yfed hyd lewyg weithiau’n haws na gorwedd ar ei phen ei hun mewn tŷ gwag. Rhoddodd ei photel wag ar lawr mewn cornel a chamodd i’r stryd. Sugnodd yr oerfel i’w hysgyfaint a cheisio dyfalu faint o effaith roedd tair potel ac un fodca wedi ei chael ar ei llais. Crynodd y ffôn yn ei llaw.\n\n‘Helô.’\n‘Sut wyt ti, Ffion? Sori i styrbio mor hwyr. Allan wyt ti?’\n‘Ar ffor’ adre. Chithe?’\n‘Tsampion. Wedi troi’r gwres ’mlaen heno. Ma hi ’di oeri beth gythrel ’ma.’\n‘Ddrwg genna i anghofio pnawn ’ma. Sgwennu o’n i.’\n‘Go dda. Rheitiach iti na gwamalu ’fo hen glown fel fi.’\n‘Sut ’dech chi efo’r tywydd?’\n‘Da iawn, wst ti. Ma’r tabledi’n gneud ’u gwaith. Fuodd Elan a’i mam yma pnawn’ma. Pawb yn gofyn amdanat ti, ac Elan yn deud ’i bod hi’n setlo yn ’rysgol. Meddwl ’set ti isio gwbod ’i bod hi am neud teisan i’r steddfod, ond am anfon darn atat ti. Os na fyddi di adre cyn hynny?’\n\nOedodd Ffion. Roedd Elan yn byw yn y pentref ac yn ferch i fam ddiarhebol o gymwynasgar. Oni bai amdanynt, gwyddai Ffion ei bod yn annhebygol y gwelai ei thad yr un enaid byw o’r naill wythnos i’r llall. Roedd Elan yn ystyried Ffion yn un o’i ffrindiau. Ond roedd Elan yn un ar ddeg oed, ac yn ffrind i bawb. Hi hefyd oedd yr unig ferch arall yn y pentref, ac fe eilunaddolai Ffion am mai hi oedd yr unig un a adawsai ar antur gyffrous i goleg ger y lli. Gwridodd Ffion wrth ddychmygu’r ferch fach yn ei gweld hi’n cerdded adref ar ei phen ei hun bob nos i dŷ oer.\n\n‘’Sa well ’mi aros yma tan ’mod i ’di gorffen y traethawd.’\n‘Iawn ’ti, wrth gwrs. Hynny sy ora.’\n\nTeimlodd Ffion hen gnoi yn ei stumog. Bu’n agos i gloffni ei thad fynd yn rheswm iddi beidio â mynd i’r coleg yn y lle cyntaf, a throeon wedyn yn rheswm i adael. Ond daeth i sylweddoli hefyd dros amser y gwnâi les i’w thad fyw’n annibynnol, a synhwyrodd, er gwaethaf ei hunigrwydd yn y coleg, fod rhyw ran ystyfnig ohoni a fwynhâi ei rhyddid ymhell o fynyddoedd llwm ei magwraeth."
351
+ },
352
+ {
353
+ "title": "Uned 3 – Y Gwesty – Darllen – Llythyr 1 – Cwyn gan Anita Jones",
354
+ "lang": "cy",
355
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
356
+ "format": "paragraph-level",
357
+ "category": "reference",
358
+ "cefr_level": "B2",
359
+ "license": "public",
360
+ "text": "Annwyl Syr/Madam,\nOfnaf fy mod yn ysgrifennu atoch i fynegi fy siom wedi i mi a fy nheulu fod yn aros yn eich gwesty ar ein gwyliau yn ystod hanner tymor y plant. Roedden ni wedi cael ar ddeall y byddai anrhegion arbennig wedi eu gosod yn ein hystafelloedd i’n croesawu. Cawsom siom o weld nad oedd golwg o ddim i’n croesawu yno. Roedd y plant wedi bod yn llawn cyffro yn dyfalu pa anrhegion a fyddai’n ein disgwyl. Fe welsom fod diodydd a chnau i’w cael yn yr oergell, ond roedd prisiau pob dim yn ddrud iawn.\n\nRoedden ni hefyd wedi disgwyl y byddai gwres cysurus yn ein hystafelloedd, ond yn wir roedden ni i gyd wedi gorfod cadw ein cotiau amdanom wrth ddadbacio ein cesys. Roedd y cyfarwyddiadau ar sut i weithio’r system wresogi yn gymhleth iawn, ac yn uniaith Saesneg. Roedden ni’n meddwl eich bod yn gweithredu polisi dwyieithog yn y gwesty.\n\nFodd bynnag, un o’r pethau yr oedden ni’n falch ohono oedd bod yr aelod o staff a ddaeth i’n helpu gyda’r system wresogi yn glên iawn ac yn siarad Cymraeg. Yn y bwyty hefyd roedden ni’n gwerthfawrogi bod yna staff yn siarad Cymraeg, ond yn siomedig unwaith eto o weld bod y fwydlen yn uniaith Saesneg, a phob peth ar y fwydlen i blant yn cael ei gynnig gyda sglodion.\n\nYr hyn oedd wedi ein denu i’ch gwesty chi, pan oedden ni’n chwilio ar y we, oedd yr honiad eich bod yn darparu ar gyfer teuluoedd â phlant. Mae’n wir fod ystafell chwarae bwrpasol gennych, ond yn anffodus, teganau addas ar gyfer plant ifanc iawn yn unig sydd gennych chi ynddi. Mae ein plant ni yn ddeg a naw oed, ac a dweud y gwir prin bod dim byd addas ar eu cyfer. Gallech fod wedi darparu cyfrifiadur neu ddau o leiaf. Roedd yna gwpwrdd â setiau o gemau diddorol yr olwg yno, ond yn anffodus iawn roedd hwnnw dan glo a doedd neb yn siŵr ble roedd y goriad iddo.\n\nYn ddiau, mae eich bwriad yn dda, ac wrth gwrs yr ydych am gynnal enw da eich gwesty. Byddem yn barod i roi ail gyfle i chi drwy ddod i aros am benwythnos hir petaech yn barod i ni gael aros yn rhad ac am ddim, a chyda’r pethau a’n siomodd wedi eu cywiro. Gallem ninnau wedyn roi’r gair ar led am eich gwesty fel lle ardderchog i fynd i aros ynddo.\n\nEdrychaf ymlaen at glywed gennych.\n\nYn gywir,\nAnita Jones\nCwmni Cyhoeddusrwydd y Llatai"
361
+ },
362
+ {
363
+ "title": "Uned 3 – Y Gwesty – Darllen – Llythyr 2 – Ymateb gan Rheinallt Morgan",
364
+ "lang": "cy",
365
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
366
+ "format": "paragraph-level",
367
+ "category": "reference",
368
+ "cefr_level": "B2",
369
+ "license": "public",
370
+ "text": "Annwyl Ms Jones,\nWedi derbyn eich llythyr dyddiedig 1 Mehefin 2020, ysgrifennaf atoch i fynegi fy siom o ddeall nad oeddech yn hapus nac yn fodlon â’r cyfleusterau a ddarperir gennym yng Ngwesty’r Prom Hotel Glanheli. Mae’n rhaid i mi ymddiheuro ynglŷn â’r anrhegion a ddylai fod wedi eu gosod allan yn eich ystafelloedd cyn i chi gyrraedd. Mae gennym nifer o aelodau newydd o staff sydd yn amlwg heb ddeall y drefn sydd gennym i groesawu teuluoedd â phlant pan fyddant yn cyrraedd. Nid oeddent chwaith yn gwybod ymhle i gael gafael ar allwedd cwpwrdd teganau’r plant hŷn.\n\nO ran eich cwestiwn ynglŷn â thymheredd yr ystafell, roeddem yn meddwl ein bod wedi gosod y cyfan i fod yn gysurus i chi gyda’r system awyru ysgafn ymlaen a hithau wedi bod yn dywydd mor boeth yn ddiweddar. Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn gwerthfawrogi hyn yn fawr pan fyddan nhw’n cyrraedd.\n\nI ateb eich cwyn am y cyfleusterau sydd gennym ar gyfer teuluoedd â phlant, mae’n rhaid i mi dynnu eich sylw at yr holl ddarpariaeth sydd gennym yng Ngwesty’r Prom Hotel, heblaw’r ystafell chwarae ar gyfer y plant ieuengaf. Mae cynllun ar y gweill i adeiladu pwll nofio ymhen rhai misoedd, a bydd hwn yn lle cyffrous i blant hŷn ei fwynhau, dan oruchwyliaeth eu rhieni. Y tu allan yn yr ardd, mae pob math o offer cyffrous i’r plant fwynhau chwarae arno am oriau bwy gilydd os mynnant. Mae’r ystafelloedd cysgu’n rhai pwrpasol ar gyfer teuluoedd, gyda dwy ystafell ar gyfer plant yn arwain yn uniongyrchol o ystafell eu rhieni. Mae’r fwydlen arbennig ar gyfer plant wedi ei seilio ar ymchwil gadarn i hoff fwydydd plant, ond fe wnaf yn siŵr y bydd mwy o amrywiaeth yn cael ei gynnig o hyn ymlaen.\n\nYr oeddwn yn falch eich bod yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ein staff yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg i chi. Fe wnaethpwyd ymdrech fwriadol i sicrhau unigolion a oedd yn medru’r Gymraeg i fod yn nhîm Gwesty’r Prom. Sylwch fod enw ein gwesty’n ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn dod yn gyntaf. Y cam nesaf gennym fydd Cymreigio’r deunydd ysgrifenedig i gydymffurfio â’r polisi dwyieithog rydyn ni’n ceisio ei roi ar waith. Rydyn ni’n gweithredu o fewn cyllideb dynn iawn ac felly heb fod mewn sefyllfa i dalu am bob peth ar unwaith.\n\nDan yr amgylchiadau felly, mae’n wir ddrwg gennyf, ni allwn gynnig i chi ddod yma i aros am benwythnos hir yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, awgrymaf eich bod yn dod yma eto ymhen y flwyddyn ac fe welwch y diffygion wedi eu cywiro. Bydd gennym ein bwydlenni a’n cyfarwyddiadau i gyd yn ddwyieithog erbyn hynny ac fe fydd cyfle i’n cwsmeriaid ofyn am i’w hystafelloedd fod wedi eu cynhesu yn ôl eu dymuniad. Bydd modd nodi hynny ar ffurflen bwrpasol ymlaen llaw.\n\nYn y cyfamser, trefnwyd i ychydig o anrhegion gael eu hanfon i’r plant eu mwynhau ac i wneud iawn am y siom a gawsant pan nad oeddent wedi eu gosod yn yr ystafelloedd i’w croesawu ar eu gwyliau y tro hwn.\n\nGyda diolch i chi am eich cwsmeriaeth a’ch amynedd.\n\nYn gywir,\nRheinallt Morgan\nPerchennog\nGwesty’r Prom Hotel, Glanheli"
371
+ },
372
+ {
373
+ "title": "Uned 4 – Fabula – Darllen – Tomàs yn y Carrer de Montcada",
374
+ "lang": "cy",
375
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
376
+ "format": "paragraph-level",
377
+ "category": "reference",
378
+ "cefr_level": "B2",
379
+ "license": "public",
380
+ "text": "Dechreuodd y bachgen ymweld â’r Carrer de Montcada yn amlach dros yr wythnosau canlynol. Roedd wedi dechrau darllen patrwm y ciws, a phryd y byddent ar eu hwyaf. Roedd y ffaith fod y ciw’n ymestyn i lawr y stryd gul yn golygu nad oedd fawr o le i bobl fynd heibio. Deuai nifer o gerddwyr i lawr y stryd o’r cyfeiriad arall, nifer ohonynt yn dod allan o’r palas y ciwiai’r lleill i fynd i mewn iddo, gan greu rhyw fath o wrthgerrynt yng nghulfor y Carrer. Yno, gan weu rhwng y bagiau, yr âi’r bachgen Tomàs ati i wneud ei waith.\n\nAc yntau wrth ei waith ymysg pocedi’r ymwelwyr, meddyliodd y bachgen beth yn union tybed a ddenai’r torfeydd yma bob dydd. Parablai’r ymwelwyr uwch ei ben gan mwyaf yn Saesneg neu Ffrangeg neu yn Almaeneg.\n\nGallai ddarllen rhywfaint, ond nid rhyw lawer: ac mae gallu darllen geiriau yn wastraff llwyr os nad oes neb wedi dweud wrthym beth yw ystyr y geiriau hynny. Roedd Tomàs wedi deall y gair ‘Museu’ ond doedd ganddo ddim syniad beth oedd ‘Picasso’ yn ei olygu.\n\nUn dydd, aeth ei gywreindeb yn drech nag o, ac ar ôl helfa foreol ddigon proffidiol fe ddiflannodd. Daeth yn ei ôl ryw deirawr yn ddiweddarach, pan fyddai torfeydd y bore, a oedd eisoes wedi’i weld ac a allai ei adnabod eto, wedi mynd yn eu blaenau am y Sagrada Família neu am siopau drudfawr Eixample. Safodd, fel pe na bai erioed wedi bod yma o’r blaen, yng nghefn y ciw, ac aros. Pan gyrhaeddodd y ddesg roedd y ddynes wrth y til yn edrych yn od arno. Roedd hi’n siŵr ei bod hi wedi’i weld o’r blaen ond roedd ganddo esgidiau am ei draed ac arian yn ei law. Gofynnodd iddo ymhle’r oedd ei rieni ac atebodd yntau’n eirwir nad oedden nhw’n gallu dod heddiw ond eu bod nhw’n gwybod ei fod yma. Yn anffodus, eglurodd y wraig, doedd dim modd caniatáu i rai dan bedair ar ddeg ddod i mewn heb oedolyn yn gwmni. Pe gallai ddod yn ôl gyda’i rieni rywbryd, fodd bynnag, fyddai dim rhaid iddo dalu gan fod mynediad i rai dan ddeunaw am ddim.\n\nDoedd hynny ddim yn bosib, atebodd y bachgen, a synhwyrai’r wraig nad oedd diben holi ymhellach. Fel roedd hi’n digwydd, roedd y wraig newydd weld adroddiad ar y teledu y bore hwnnw am ffrwydrad a oedd wedi bod mewn dinas bell ac a oedd wedi lladd dwy ferch fach. Fel roedd hi’n digwydd, roedd yr adroddiad wedi ei chyffwrdd ac wedi dod â’i hemosiynau fymryn yn nes i’r wyneb, gan wneud iddi feddwl am ei phlant ei hun. Ac fel roedd hi’n digwydd, roedd hi’n fwy parod nag arfer i blygu’r rheolau i fachgen bach fel Tomàs ac felly dywedodd y câi fynd i mewn heddiw, ond y byddai’n rhaid iddo ddod â rhywun gydag o pe dôi eto. Gofynnodd hithau iddo wedyn a hoffai gael audioguía. Faint oedd hynny, gofynnodd y bachgen Tomàs, a’r wraig yn ateb ei fod yn costio €5.\n\nErbyn hyn roedd Tomàs wedi dechrau meddwl y byddai’n rheitiach gwario’r arian yn ei boced ar fwyd heno. Doedd arno ddim angen clywed unrhyw beth, dim ond gweld pam roedd yr holl bobl bob dydd yn ciwio cyhyd. Cafodd bamffled bychan a map am ddim, ond nid edrychodd ar hwnnw. Dilynodd ei drwyn a dilyn y golau, gan ddringo hen risiau carreg a godai o gowt agored ger y fynedfa. Aeth drwy’r drws gwydr, ac anelu am ’stafell a’r rhif 1 ger ei mynedfa. Gallai ddilyn rhifau.\n\nTreuliodd ryw awr yn cerdded o amgylch y ’stafelloedd. Erbyn deall, darluniau a pheintiadau oedd yma, rhyw wyth neu ddeg ohonynt yn hongian ymhob ’stafell, a phobl yn sefyll yn union o’u blaenau ac yn syllu arnynt. Pam na fydden nhw i gyd yn sefyll ymhellach yn ôl, meddyliai Tomàs, er mwyn i bawb gael gweld ar yr un pryd, Duw a ŵyr. Roedd pobl yn plygu i mewn yn agos, agos at y cynfas, fel pe baen nhw’n chwilio am rywbeth neu’n ceisio gweld rhywbeth nad oedd yno. Roedd eraill wedyn yn darllen y paneli nesaf at y lluniau yn fanwl iawn, a phrin yn taro cip ar y peintiadau eu hunain."
381
+ },
382
+ {
383
+ "title": "Uned 5 – Llythyrau ffurfiol – Darllen – Llythyr 1 – Cwyn gan Sid Huws",
384
+ "lang": "cy",
385
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
386
+ "format": "paragraph-level",
387
+ "category": "reference",
388
+ "cefr_level": "B2",
389
+ "license": "public",
390
+ "text": "Annwyl Mr Richards,\nYsgrifennaf atoch i dynnu sylw at y driniaeth a gafodd fy mam, Mrs Beryl Huws, yn Ysbyty Cyffredinol Aberheli yn ddiweddar. Mae Mam yn 90 oed a hyd yn gymharol ddiweddar, mae hi wedi mwynhau bywyd llawn heb orfod dibynnu ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gwbl. Gweithiodd am dros ddeng mlynedd ar hugain fel nyrs ardal yn nhref Glanwylan a’r cylch ac mae hi’n adnabyddus iawn yn ei chymuned fel menyw sydd wedi gofalu am drigolion y fro o bob oedran, o’r crud i’r bedd.\n\nNewidiodd hyn oll tua deufis yn ôl, pan gwympodd hi yn yr ardd gefn a thorri nifer o asennau. Ar y pryd, roedd ar ei phen ei hun ac yn gorwedd yn ddiymadferth, mewn poen am dros dair awr nes i’m gwraig, Gaynor, alw ar ei ffordd i’r siopau lleol. Aeth hi â Mam yn syth i Adran Achosion Brys Ysbyty Glanwylan. Ar ôl aros am dros bedair awr cyn i rywun ddod i gynnig unrhyw driniaeth, penderfynwyd y byddai’n gorfod cael ei throsglwyddo i Ysbyty Cyffredinol Aberheli (dros ugain milltir i ffwrdd) achos nad oedd digon o staff arbenigol yng Nglanwylan i roi’r driniaeth briodol iddi.\n\nPan gyrhaeddodd Ysbyty Aberheli, roedd yn rhaid iddi aros am awr arall cyn iddynt ddod o hyd i wely iddi ac erbyn hyn, roedd hi mewn tipyn o boen ac yn dechrau drysu. Cymraeg yw iaith gyntaf Mam ac nid oedd yn hawdd iddi ei mynegi ei hun i’r staff a oedd yno ar y pryd gan nad oedd neb yn medru cyfathrebu â hi yn ei hiaith ei hun. Treuliodd gyfnod o fis yn Aberheli, lle cododd firws ar ben popeth arall. Mae’n anodd credu bod gennych ‘weithdrefnau addas’ i gadw’r lle’n lân, fel y mae eich gwefan yn ei honni. Pan oedd Mam yn ddigon iach i ddod adre, nid oedd ambiwlans ar gael, felly bu’n rhaid i mi adael y gwaith yn gynnar a mynd draw i’w nôl hi.\n\nMae profiad Mam o’r Gwasanaeth Iechyd y bu hi mor ffyddlon iddo dros gymaint o flynyddoedd wedi bod yn warthus; ni ddylai unrhyw un orfod aros a chael ei drin yn y fath fodd. Mae mawr angen chwistrelliad o arian i wella’r sefyllfa yn yr ysbyty hwn, hyd y gwelaf i. Byddai’n ddigon gwael i rywun yr un oed â mi, ond i wraig 90 oed sy’n byw ar ei phen ei hun, mae’n anfaddeuol. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb i’r pwyntiau hyn.\n\nYn gywir,\nSid Huws"
391
+ },
392
+ {
393
+ "title": "Uned 5 – Llythyrau ffurfiol – Darllen – Llythyr 2 – Ateb gan Ieuan Richards",
394
+ "lang": "cy",
395
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
396
+ "format": "paragraph-level",
397
+ "category": "reference",
398
+ "cefr_level": "B2",
399
+ "license": "public",
400
+ "text": "Annwyl Mr Huws,\nDiolch am gysylltu ag Awdurdod Iechyd Bro Aberheli (AIBA). Roedd yn ddrwg iawn gennyf ddarllen am brofiad eich mam, Mrs Beryl Huws, yn Ysbytai Glanwylan ac Aberheli. Mae gennyf innau riant o’r un oed, a gwn yn iawn sut deimlad yw pryderu am rywun oedrannus.\n\nGallaf eich sicrhau nad yw’r gwasanaeth a dderbyniodd yn cydymffurfio â’r safonau disgwyliedig yn ôl Siarter y Claf AIBA. Ar ôl gwneud ymholiadau pellach ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd pan aethpwyd â Mrs Huws i adran achosion brys Ysbyty Glanwylan, mae’n debyg fod lefel y staffio’n is na’r disgwyl oherwydd graddfeydd absenoldeb uwch na’r arfer.\n\nO ganlyniad i hynny, penderfynwyd mynd â Mrs Huws i Ysbyty Aberheli i gael triniaeth. Mae’n dipyn o syndod i mi glywed nad oedd staff Cymraeg eu hiaith ar gael. Mae canran uchel o’r staff nyrsio a gweinyddu’n medru’r Gymraeg yn barod, ac mae’r Awdurdod wedi buddsoddi’n helaeth mewn cyrsiau i wella sgiliau iaith y gweithlu, er mwyn ateb y galw.\n\nCynhelir safonau hylendid uchel iawn yn holl ysbytai AIBA, a byddwn i’n dadlau bod y datganiad a welsoch ar ein gwefan yn dal dŵr o ran yr ysbyty hwn. Er hynny, mae’n anorfod, o bryd i’w gilydd, y bydd rhai o’n cleifion hŷn yn codi firws neu haint pan fyddant yn aros yma am gyfnod cymharol hir.\n\nI droi at eich pwynt olaf, sef prinder ambiwlansys i fynd â Mrs Huws adref, fe gofiwch ar y pryd ein bod newydd gael cyfnod o oerfel ofnadwy a galwadau lu ar y Gwasanaeth Iechyd. Nid oedd y Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd am yr oerfel annisgwyl, felly nid oedd modd rhagweld y pwysau ofnadwy oedd arnom. Oherwydd hynny, bu’n rhaid sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn rhoi blaenoriaeth i gludo achosion brys. Cafwyd dros gant o’r rheini ar y diwrnod hwnnw.\n\nI gloi, mae’r baich sydd ar y Gwasanaeth Iechyd yn drwm ac yn amrywio o ddydd i ddydd, a chytunaf gant y cant â chi mai cyllid ychwanegol yw’r ateb tymor hir yn Aberheli fel ym mhobman arall. Oherwydd cyfuniad o nifer o amgylchiadau anffodus y tro hwn, ni dderbyniodd Mrs Huws wasanaeth o’r safon y dylai fod wedi’i dderbyn. Hoffwn ymddiheuro ar ran AIBA i Mrs Huws ac i chithau am y diffygion hyn. Yr ydym wedi adolygu ein systemau derbyn cleifion i geisio osgoi profiadau tebyg yn y dyfodol.\n\nYn gywir,\nIeuan Richards\nAwdurdod Iechyd Bro Aberheli"
401
+ },
402
+ {
403
+ "title": "Uned 6 – Fel Edefyn Gwe – Darllen – Y Daith i Ddolgellau",
404
+ "lang": "cy",
405
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
406
+ "format": "paragraph-level",
407
+ "category": "reference",
408
+ "cefr_level": "B2",
409
+ "license": "public",
410
+ "text": "‘Wyt ti isio’r lôn ’ma i gyd, wyt, y BMW diawl?’ Chwifiais fy mraich i’r dde i bwysleisio i yrrwr y cerbyd mai yn nesa at y clawdd roedd ei le o ar y ffordd. Canodd ei gorn yn ddigywilydd arna i, ond o leia ro’n i wedi deffro o’m synfyfyrion. Rhyfedd fel mae rhywun yn medru gyrru am filltiroedd ar hyd ffordd gyfarwydd heb ganolbwyntio o gwbl. Bu fy meddwl ymhell ers i mi adael yr A470 yn Llanidloes a cheisio naddu dwsin o filltiroedd oddi ar fy nhaith drwy rychu heibio cronfa Clywedog ac ailymuno â’r briffordd yn Llanbrynmair.\n\nYmhen awr neu ddwy byddai Pamela-Wynne a finna’n ailflasu’r gorffennol ac yn wyneb marwolaeth ein cynathro, byddai atgofion o bob math yn codi i’r wyneb fel hen froc. Y noson honno yn y parti ar y traeth dros ddeugain mlynedd yn ôl, pan oedd Rhian yn crynu fel cath fach yn fy mreichiau wrth y tân, roedd pawb arall yn methu dallt pam mai ata i y trodd hi. Wedi’r cwbwl, fuon ni erioed yn fawr o ffrindiau. Ond ro’n i’n dallt yn iawn – roeddan ni’n rhannu cyfrinach fawr ein profiad annymunol gydag Elwyn Griffiths pan oeddan ni yn safon tri. Thorrais i mo ’ngair na rhannu’r wybodaeth â neb, ac i bob pwrpas, aethai’r hanes yn angof i mi gyda threigl y blynyddoedd. Ond o feddwl am y peth, ella fod cysylltiad rhwng hynny a’r ffaith i Rhian fod yn hir iawn cyn priodi – roedd dros ei deugain yn mentro. Fodd bynnag, nid hynny a barodd y sioc fwyaf i ni’r genod, ond ei dewis o ŵr.\n\nDaeth golau coch y tanc petrol ymlaen ger Dinas Mawddwy i ddod â fi’n ôl i’r presennol. Stop bach yn Nolgellau amdani, am goffi ac i ail-lenwi’r tanc cyn cymal ola’r daith tuag adra.\n\n‘Nain? Pam y’ch chi’n gweud “adra” bob amser pan y’ch chi’n sôn am Dre?’ gofynnodd Huw neithiwr pan soniais i am fynd i’r gogledd. ‘Dych chi’m ’di byw yno ers oes pys!’ Rhyfedd bod ambell air a dywediad gogleddol yn ei iaith, meddyliais, er iddo fo a’i chwaer fyw drwy gydol eu hoes yng Nghaerdydd. Dylanwad ei nain, meddyliais yn foddhaus.\n\n‘Naddo Huw, ddim ers i dy dad-cu a finna briodi.’ Roedd hwnnw’n ddiwrnod bendigedig yn ystod haf poeth 1976, a neb ddim callach y byddem yn rhieni ymhen saith mis. Hufen oedd fy ffrog laes, yr un lliw â fy het feddal cantal llydan a ’nhusw blodau. Anni, fy ffrind gorau o’r coleg, oedd fy morwyn briodas a brawd hŷn Dafydd oedd ei was. Talodd eu tad am siwtiau tri-darn iddyn nhw o Hepworths yn Aberystwyth, ac roedd tei Dafydd â’i gwlwm enfawr yn streipiau brown a’r un hufen yn union â fy ffrog a’r rhosod. Mae’r haul wedi pylu’r lliwiau llawn o’r llun sydd ar fy wal erbyn hyn, ond mae gwenau’r ddau ohonom, yn sefyll ar lawnt eang Brynhyfryd Hall, yn dal i fy nghynhesu. Does gen i ddim cywilydd cyfaddef ’mod i’n dal i gusanu’r gwydr bob nos cyn cysgu. Doedd yr un o’m hen ffrindiau ysgol yn westeion yn ein priodas, dim ond teulu a’r ffrindiau a wnaeth Dafydd a minnau yn y coleg.\n\nCardiau Dolig oedd yr unig gysylltiad rhyngddon ni ers hynny – cardiau elusen, sgleiniog, drud ar y cyfan, ambell un dwyieithog ond rhai Saesneg hefyd. ‘Pob dymuniad da i’r teulu oll dros gyfnod y Nadolig. Cofion gorau, Eirlys, Cemlyn, Berwyn a Meinir, Aled a Siwan a’r wyrion oll. xx.’ ‘Season’s Greetings from the Orkneys! See you sometime, Nan, Karl and Christmas “woofs” from Butch and Bruno the mutts!’ Cerdyn a wnaeth ei hun yn ddieithriad ddeuai oddi wrth Nan. ‘Happy Christmas/Nadolig Hapus, Jean, Gaz & family.’ Cyfarchion y Tymor! Nic, Pam a’r teulu. Brysia draw! xxx.’ Ond ddaeth dim byd oddi wrth Rhian ers blynyddoedd maith.\n\nTrodd fy meddwl yn ôl i’r mis Mai blaenorol. Fy nhro i oedd mynd â Huw a Mari, fy ŵyr ac wyres, i’r ysgol Sul. Roedden nhw wedi cysgu acw y noson cynt gan fod Esyllt a’i gŵr wedi cael cynnig aros mewn gwesty yn Ystumllwynarth ar ôl rhyw ginio busnes crand. Doedd eu cael nhw draw yn ddim byd newydd ac mae’n dda gen i gael cwmni afieithus y plantos i leddfu ffyrnigrwydd fy hiraeth am Dafydd.\n\nTawodd murmur y gynulleidfa pan gamodd y pregethwr dieithr i’r sêt fawr, a sibrwd gair distaw o weddi ar y grisiau cyn esgyn i’r pulpud. Edrychai’n ddigon tebyg i Captain Birdseye yn yr hysbysebion teledu ers talwm, gyda’i wallt tonnog claerwyn a’i farf laes, oedd bron hyd at ei frest. Syllodd o’i gwmpas ar y gynulleidfa o’i flaen drwy sbectol weiren arian a gwenodd yn glên ar rywun a eisteddai mewn sedd o flaen corpws enfawr y pen blaenor."
411
+ },
412
+ {
413
+ "title": "Uned 7 – Ymgynghoriad y Cyngor Sir – Darllen – Llythyr 1 – Emyr Jones at y Cynghorydd Dafydd Gee",
414
+ "lang": "cy",
415
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
416
+ "format": "paragraph-level",
417
+ "category": "reference",
418
+ "cefr_level": "B2",
419
+ "license": "public",
420
+ "text": "Annwyl Gynghorydd,\nYsgrifennaf atoch i ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Sir ynglŷn â’u cynlluniau i arbed arian y flwyddyn nesaf. Cyn i mi roi fy marn ar y cynigion penodol, hoffwn ddweud fy mod yn deall eich bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth i’r arian sy’n dod o’r Llywodraeth i’r Cyngor Sir gael ei dorri unwaith eto. Yn sicr, faswn i ddim yn hoffi bod yn eich lle chi ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gynrychioli ein cymuned trwy’r cyfnod anodd hwn.\n\nO droi at y cynlluniau, hoffwn ddechrau gyda’r gwasanaeth ieuenctid a’r cynnig y gallai’r Cyngor arbed £500,000 trwy roi’r gorau i gynnig grantiau i glybiau a mudiadau ieuenctid y sir. Byddai hyn yn beth ofnadwy i’w wneud yn fy marn i; mae miloedd o bobl ifanc y sir yn mynychu clybiau a digwyddiadau sy’n dibynnu ar yr arian hwn. Maen nhw’n dysgu sgiliau newydd drwy’r gweithgareddau hyn sy’n rhan hollbwysig o’u datblygiad fel aelodau o’r gymuned. A dweud y gwir, mae llawer o’r grwpiau hyn yn helpu i gynnal gwasanaethau pwysig eraill drwy godi arian neu helpu’n ymarferol mewn digwyddiadau cymunedol neu gyda gwasanaethau i bobl hŷn, er enghraifft. Mae’n bosib, felly, y byddai gweithredu’r cynnig hwn yn costio mwy o arian nag y byddai’n ei arbed oherwydd y byddai rhaid i’r Cyngor wario mwy i gynnal y gwasanaethau pwysig sy’n cael eu cefnogi gan y grwpiau ieuenctid.\n\nY syniad arall rwyf yn ei wrthwynebu’n chwyrn yw’r cynnig mai dim ond y ffordd rhwng Aberwylan a Llanaber fydd yn cael ei graeanu â halen mewn tywydd oer yn y gaeaf. Er mai dyma’r ffordd fwyaf a phrysuraf yn y sir, mae llawer o bobl yn byw mewn trefi a phentrefi eraill ac yn dibynnu ar y ffyrdd i gyrraedd eu gwaith, i fynd i siopa ac ati. Byddai torri ar y gwasanaeth graeanu yn peryglu diogelwch trigolion y sir wrth iddyn nhw gynnal eu bywydau pob dydd trwy’r gaeaf, heb sôn am yr holl blant sy’n cael eu cludo i ysgolion ledled y sir mewn bysus a cheir. Rwy’n ymbil arnoch i beidio â chefnogi’r cynnig anghyfrifol hwn.\n\nMae’r trydydd cynnig yn y cynlluniau yn un y gallaf ei gefnogi. O dan yr amgylchiadau, byddai’n hollol rhesymol i chi godi’r tâl am barcio ym meysydd parcio’r sir i £1.20 yr awr. Er bod hyn yn gynnydd o 50%, dim ond ychydig bunnoedd y mis fydd hyn yn ei gostio i’r rhan fwyaf o drigolion y sir. A dweud y gwir, gallai fod yn beth da petai’r cynnydd yn y pris yn gwneud i bobl ailfeddwl ynglŷn â gyrru i’r trefi drwy’r amser ac efallai y gwelwn ni fwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu’n trefnu i rannu ceir.\n\nRwy’n deall na fydd y cynnydd mewn pris parcio yn ddigon i ateb problemau ariannol y Cyngor heb y cynlluniau eraill. Hoffwn i awgrymu y dylech chi ystyried codi lefelau Treth y Cyngor. Rwy’n meddwl y bydd pobl yn barod i dalu ychydig mwy er mwyn cynnal gwasanaethau pwysig.\n\nYn gywir,\nEmyr Jones"
421
+ },
422
+ {
423
+ "title": "Uned 7 – Ymgynghoriad y Cyngor Sir – Darllen – Llythyr 2 – Ymateb gan y Cynghorydd Dafydd Gee",
424
+ "lang": "cy",
425
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
426
+ "format": "paragraph-level",
427
+ "category": "reference",
428
+ "cefr_level": "B2",
429
+ "license": "public",
430
+ "text": "Annwyl Mr Jones,\nDiolch am eich llythyr ynglŷn â’r ymgynghoriad ar gynlluniau’r Cyngor Sir i arbed arian y flwyddyn nesaf.\n\nRwy’n cytuno gyda chi fod y clybiau a mudiadau ieuenctid yn gwneud gwaith pwysig gyda phobl ifanc ein sir ac yn cyfrannu llawer at ein cymunedau. Fodd bynnag, mae’r arian sydd ar gael i’r Cyngor wedi cael ei dorri bob blwyddyn bellach ers pum mlynedd. Fel y dywedwch chi yn eich llythyr, mae rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn erbyn hyn ac mae hynny’n cynnwys torri gwariant mewn meysydd pwysig a gwasanaethau gwerthfawr. Mae llawer o fudiadau a chlybiau yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu gwaith gyda phobl ifanc ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn barod i wirfoddoli ac i helpu eu cymuned yn yr amserau anodd hyn.\n\nAr fater graeanu’r ffyrdd, rwy’n cyd-weld yn union â chi – byddai’n anghyfrifol i ni beryglu bywydau gyrwyr a phlant drwy beidio â rhoi halen ar y rhan fwyaf o ffyrdd y sir. Byddaf yn sicr o wrthwynebu’r cynnig hwn yn ffyrnig yng nghyfarfodydd y Cyngor. Rwy’n eithaf hyderus y bydd y cynlluniau’n cael eu gwrthod, gan fod cynghorwyr o ardaloedd eraill ledled y sir yn gwrthwynebu’r cynlluniau hefyd.\n\nRwy’n deall eich dadleuon dros gefnogi’r cynnydd mewn costau parcio hefyd. Yn anffodus, rwy’n gweld problemau gyda’r cynigion fel y maen nhw. Gan fod parcio’n rhatach yn y sir nesaf, byddai codi gormod o dâl yn ein meysydd parcio ni’n annog mwy o bobl i fynd i siopa yno a byddai ein busnesau lleol ni’n dioddef. Hefyd, mae perygl na fyddai’r Cyngor yn cael mwy o arian petai ein meysydd parcio yn hanner gwag bob dydd! Felly, rwyf am gefnogi cynnig i gynyddu pris parcio i 85c yr awr yn hytrach nag i £1.20 yr awr. Rwy’n credu y bydd pobl yn barod i gefnogi’r cynnydd bach hwn.\n\nI droi at eich pwynt olaf, nid cynnydd bach fyddai ei angen yn Nhreth y Cyngor petaen ni’n diogelu’r gwasanaethau ieuenctid, fel rydych chi’n awgrymu. Dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael fy ailethol yn yr etholiad nesaf petawn i’n cefnogi cynnydd o 10% bob blwyddyn yn Nhreth y Cyngor, felly nid wyf yn fodlon gwneud hynny. Rwy’n hyderus y bydd pobl yn gefnogol i fy nghynlluniau ac yn fodlon derbyn cynnydd bach (llai na 5%) yn y dreth er mwyn cefnogi’r gwasanaethau pwysicaf.\n\nYn gywir,\nY Cynghorydd Dafydd Gee"
431
+ },
432
+ {
433
+ "title": "Uned 8 – Haul y Bore – Darllen – Hanes Haul y Bore",
434
+ "lang": "cy",
435
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
436
+ "format": "paragraph-level",
437
+ "category": "reference",
438
+ "cefr_level": "B2",
439
+ "license": "public",
440
+ "text": "Gwyddai Haul y Bore fod ei hamser wedi dod.\n\nErs misoedd roedd hi wedi teimlo’r plentyn yn tyfu ac yn tyfu y tu mewn iddi. Roedd hi wedi’i deimlo’n symud, yn cicio ac yn anesmwytho. Rŵan, fodd bynnag, roedd y poenau’n dod yn aml ac yn gyson ac roedd yn amser iddi fynd i’r goedwig ac at yr afon i eni. Casglodd fân bethau ynghyd. Blancedi a chadachau... a’r brigyn.\n\nGwenodd wrth estyn y brigyn. Roedd o’n chwe modfedd o hyd ac yn hanner modfedd o drwch. Hwn a roesai Chico’n anrheg iddi cyn cychwyn ar ei daith gyntaf gyda’r dynion eraill i hela’r byffalo.\n\n“Pan ddof yn ôl, wedi profi fy hun i Geronimo, fe fydd gen ti Apache bach newydd yn anrheg i mi!” Dyna’i eiriau wrthi.\n\n“Hanner Apache!” cellweiriodd hithau. “Efallai mai Apache yw ei dad ond cofia mai Navaho o waed coch cyfan ydw i!”\n\n“Wel, fy Navaho bach i, cymer hwn!” meddai, gan estyn y brigyn iddi. “Pan fydd y poenau’n aml ac yn ormod, rho fo rhwng dy ddannedd a bratha.”\n\nCusanodd hi.\n\n“Mi fyddaf i hefo ti!”\n\nWrth i Haul y Bore adael ei phabell, roedd y merched eraill wedi dechrau ymgasglu gerllaw. Dechreuodd un uchelweiddi wrth ei gweld yn ymlwybro’n araf, ac atebwyd ei chri gan y lleill.\n\n“Waw wow! Waw wow!”\n\nGwenodd Haul y Bore arnynt a chodi’i llaw. Dechreuodd gerdded yn araf at y coed a’r afon. Roedd hi’n cael trafferth i’w dal ei hun yn syth. Estynnodd ei llaw i gyffwrdd main ei chefn. Ochneidiodd.\n\nRoedd ei chalon yn rasio gan ofn yr anhysbys. Roedd y merched eraill i gyd wedi rhannu’u profiadau â hi, ond rŵan, roedd o’n digwydd iddi hi. Yn digwydd go iawn. Wedi heddiw, gallai hithau rannu’i phrofiad â merched eraill. Ond am y munudau, efallai yr oriau nesaf, byddai ar ei phen ei hun bach. Ochneidiodd eto. Roedd hi’n unig.\n\nYn sydyn, roedd arni hiraeth am ei phobl ei hun. Ei thad, Manuelito, ei mam wen, Juanita, ei theulu a’i ffrindiau. Roedden nhw gartref yng Ngheunant de Chelley. Beth ar wyneb daear a wnaeth iddi adael ei phobl a symud at yr Apache? Chwarddodd am iddi ofyn y fath gwestiwn dwl. Onid oedd yr ateb yn syml? Chico!\n\nRoedd y ddau ohonyn nhw’n adnabod ei gilydd er pan oedden nhw’n blant. Roedd yna hen draddodiad rhwng yr Apache a’r Navahos. Gan eu bod yn gefndryd, i ddynodi parhad eu cyfeillgarwch a’u perthynas byddent yn cyfarfod unwaith y flwyddyn i gyfnewid nwyddau a bwyd. Ar un o’r achlysuron hynny y cyfarfu Haul y Bore â Chico.\n\nAr y pryd roedd o’n bymtheg oed a hithau’n dair ar ddeg ac o’r dydd hwnnw dywedasai Geronimo a Manuelito mai Haul y Bore fyddai gwraig Chico ryw ddiwrnod. Roedd hi’n cofio’n iawn y diwrnod y cafodd ei chyflwyno iddo. Roedd yna ddireidi yn llygaid gloywon y llanc wrth iddo wenu arni. Roedd hithau wedi dychwelyd ei wên. Roedd Chico wedi gafael yn ei llaw ac i ffwrdd â nhw at lannau’r Rio Grande. Yno, dangosodd Chico iddi’r fath bysgotwr medrus oedd o. Dangosodd iddi ei gamp gyda’r bwa saeth, ei fedrusrwydd gyda’r gyllell, a’i ddawn i farchogaeth ceffyl.\n\nCofiai’n dda geisio cuddio’i dagrau wrth i’r Navahos gychwyn ar eu taith adref i Geunant de Chelley. Roedd hi’n cofio troi’n ôl a gwylio Chico a Geronimo yn ymbellhau, yn smotiau o gysgodion duon ar y gorwel. Roedd hi’n cofio codi’i llaw a gweld ei law yntau a’i fwa yn yr awyr yn cydnabod ei ffarwél.\n\nDdwy flynedd yn ôl y bu hynny. Rŵan, roedd hi’n wraig iddo ers bron i flwyddyn ac wedi gadael ei theulu a’i llwyth i fod gyda Chico. Ble roedd o’r funud hon? Ar gefn ei geffyl yn hela’r byffalo efallai? Roedd hi’n gwybod fod yr helfa hon yn bwysig i Chico.\n\nPlentyn amddifad oedd o, wedi’i fabwysiadu gan Geronimo pan laddwyd ei rieni gan y Mecsicaniaid wyth mlynedd ynghynt. Roedd Geronimo wedi gweld deunydd heliwr a rhyfelwr cadarn ynddo, a dyna pam roedd o wedi’i fabwysiadu. Roedd Chico eisoes wedi’i brofi’i hun yn heliwr medrus o amgylch y gwersyll, ac eleni, roedd o’n cael cyfle i’w brofi ei hun ar yr helfa flynyddol i ddarparu stôr o fwyd i’r Apache at y gaeaf."
441
+ },
442
+ {
443
+ "title": "Uned 9 – Llosgydd glo – Darllen – Llythyr 1 – Glesni Prys at yr Olygydd",
444
+ "lang": "cy",
445
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
446
+ "format": "paragraph-level",
447
+ "category": "reference",
448
+ "cefr_level": "B2",
449
+ "license": "public",
450
+ "text": "Annwyl Olygydd,\nGyrrais heibio i Lyn Tryweryn heddiw a rhyfeddu o weld mor isel oedd lefel y dŵr. Gallwn weld nifer o adfeilion yr hen bentref yn glir. Roedd y tir o gwmpas y llyn wedi melynu hefyd yn sgil sychder mawr y gwanwyn ac roedd olion tanau mawr y penwythnos diwetha i’w gweld yn glir ar ochrau’r mynydd.\n\nWedi cyrraedd adref, gwyliais y newyddion ar y teledu a gweld y lluniau erchyll o’r llifogydd yng Ngogledd yr India wedi glaw di-baid yr wythnosau diwethaf, llifogydd sy wedi gadael miloedd ar filoedd o bobl yn ddigartref. Aeth y bwletin yn syth ymlaen i ddangos effaith y corwynt nerthol sy wedi taro sawl rhan o India’r Gorllewin gan adael miloedd yno hefyd heb do uwch eu pennau.\n\nPa brawf pellach sy ei angen bod nwyon tŷ gwydr yn newid hinsawdd y ddaear mewn modd eithafol, a bod dyn yn prysur ddinistrio ei blaned ei hun?\n\nOnd roedd gwaeth i ddod. Yr eitem nesa ar y newyddion oedd penderfyniad cynghorwyr Gwynedd i gymeradwyo cais Energy Solutions i adeiladu llosgydd glo ger hen safle atomfa Trawsfynydd. Fedrwn i ddim credu fy nghlustiau. Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod y llosgyddion diweddaraf yn effeithlon iawn ac yn achosi bron dim llygredd. Bron dim, sylwch, nid dim o gwbl! Faint o weithiau rydyn ni wedi clywed honiadau celwyddog fel hyn o’r blaen am ffatrïoedd perffaith lân a pherffaith ddiogel? Dywedodd y llefarydd hefyd y byddai’r pwerdy’n dod â thua dau gant o swyddi parhaol i’r ardal ond y byddai angen cyflogi miloedd yn y tymor byr ar gyfer y gwaith adeiladu. Gwaith i bwy, tybed? Pobl o’r tu allan fyddai’r rhan fwyaf, mae’n siŵr. Pa effaith a gaiff hyn ar y Gymraeg mewn ardal lle mae’r iaith eisoes yn gwanhau’n gyflym?\n\nYchwanegodd y llefarydd y byddai glo rhad yn cael ei fewnforio o Asia gan adfywio porthladd Porthmadog. Adfywiad i Borthmadog, efallai, ond dim help o gwbl i adfywio hen gymoedd glo tlawd De Cymru, mae’n amlwg.\n\nOes rhywun wedi meddwl beth fydd ôl troed carbon y datblygiad hwn? A chofiwch am y tunelli o wastraff niwclear sy eisoes wedi’i gladdu ar y safle. Un camgymeriad bach wrth baratoi’r seiliau ar gyfer y llosgydd newydd, a bydd hi ar ben arnon ni i gyd.\n\nPrif ddiben y llythyr hwn yw gwahodd pawb sy’n poeni am ddyfodol ein cymunedau, ein cenedl a’n planed i ymuno â ni mewn protest yn Nhrawsfynydd dydd Sadwrn 3 Gorffennaf, gan ymgynnull wrth gofeb Hedd Wyn am 11.00. Hyderaf y dewch chi yn eich miloedd o bob cwr o Gymru i ddangos eich gwrthwynebiad i’r cynllun gwallgof yma. Nid mater lleol yn unig yw hwn; mae’n fater o’r pwys mwyaf i’r ddynoliaeth gyfan.\n\nYn gywir,\nGlesni Prys\nParc y Rhath, Caerdydd"
451
+ },
452
+ {
453
+ "title": "Uned 9 – Llosgydd glo – Darllen – Llythyr 2 – Ymateb gan Dafydd Jones",
454
+ "lang": "cy",
455
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
456
+ "format": "paragraph-level",
457
+ "category": "reference",
458
+ "cefr_level": "B2",
459
+ "license": "public",
460
+ "text": "Annwyl Olygydd,\nTeimlaf fod rhaid i mi ymateb i lythyr eithafol y Fonesig Glesni Prys a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ydy’r gwres wedi mynd i’w phen hi, dwedwch? Mae hi wedi bod yn wanwyn sych a phoeth, digon gwir, ond does dim byd yn sinistr am hynny: mae tywydd Cymru wedi amrywio’n fawr o un flwyddyn i’r llall erioed. Dw i’n cofio gweld adfeilion hen bentref Capel Celyn pan aeth lefel y dŵr yn Llyn Tryweryn yn isel iawn yn ystod haf poeth 1976, ond faint o hafau gwlyb ac oer rydyn ni wedi’u cael ers hynny? A dydy llifogydd a chorwyntoedd ddim yn bethau dieithr yn India a’r Caribî, gwaetha’r modd. Dydy tywydd eleni ddim yn ‘brawf’ o fath yn y byd fod yr hinsawdd wedi newid.\n\nA phwy ydy’r Fonesig Prys i wrthod y cyfle i bobl ifainc Gwynedd aros yn eu cymunedau a chael swyddi da ym mro eu mebyd? Y rheswm pam mae’r iaith Gymraeg wedi gwanhau yn ardal Trawsfynydd ydy bod cymaint o bobl ifainc eisoes wedi gorfod symud i ffwrdd i chwilio am waith.\n\nByddwn wrth fy modd yn gweld swyddi’n cael eu creu yng nghymoedd De Cymru hefyd, wrth gwrs, ond dw i’n amau a fyddai llawer o’r trigolion yn awyddus i weld y pyllau glo’n ailagor, gyda’r holl beryglon a llwch a gwastraff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant hwnnw. Sut byddai’r Fonesig Prys yn teimlo pe bai sôn am agor pwll glo wrth garreg ei drws yn ei swbwrbia goediog yng Nghaerdydd, tybed?\n\nFelly, ddarllenwyr, os oeddech chi wedi ystyried dod o Gymru benbaladr i’r brotest hon yn Nhrawsfynydd y mis nesa, gaf i ofyn i chi ailfeddwl, os gwelwch yn dda? Mater lleol ydy hwn, nid mater i bobl fawr Caerdydd, nac i’r Deyrnas Unedig nac i’r blaned gyfan. Os bydd pobl leol yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i wella eu safonau byw, gadewch lonydd iddyn nhw wneud y dewis hwnnw eu hunain. Ac os penderfynwch chi aros gartref, yn hytrach na gyrru yn eich miloedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt, meddyliwch gymaint yn llai fydd eich ôl troed carbon am eich bod chi wedi gwneud y penderfyniad call i adael eich Volvos yn eich garej trwy’r dydd ar 3 Gorffennaf!\n\nYn gywir,\nDafydd Jones\nHarlech"
461
+ },
462
+ {
463
+ "title": "Uned 10 – Mr Blaidd – Darllen – Fflur a Peter Stumpp",
464
+ "lang": "cy",
465
+ "source_name": "uwch-3_cymru-learnwelsh",
466
+ "format": "paragraph-level",
467
+ "category": "reference",
468
+ "cefr_level": "B2",
469
+ "license": "public",
470
+ "text": "“O ddifrif nawr, seeriously, ti byth wedi bod ymhellach nag Aberhonddu o’r blaen? Wel, wel, wel...” ysgydwodd Peter Stumpp ei ben mewn anghrediniaeth lwyr wrth yrru’i pick-up tun tiwna’n rhy gyflym yn y tywyllwch tua’r de. “Faint ydy dy oed di? Os ca’ i ofyn like.”\n“Ugain,” atebodd Fflur, heb wybod beth oedd gan hynny i’w wneud ag unrhyw beth.\n“Pam?”\n“Pam, beth?”\n“Pam nad wyt ti ’di gadael cartre cyn nawr?”\nMeddyliodd Fflur cyn ateb, ac roedd ei rhesymeg yn swnio braidd yn wan, hyd yn oed iddi hi’i hun. “Merch y wlad ydw i a dyw mynd i’r dre neu i ddinas erioed wedi apelio ata i. Gweithio’r tir a gofalu am yr anifeiliaid ar y fferm, dyna lle dw i hapusa. Yn gweld y gwryddni’n ymestyn at y gorwel ym mhob cyfeiriad, yn clywed yr adar yn y coed a’r brefu ar y buarth...” Tawelodd cyn i’w geiriau barddonol sentimental droi’n ganu gwlad cawslyd.\nTaniodd Peter fwgyn arall, ei bumed mewn deugain munud, ac agor ei ffenest unwaith eto er mwyn gadael i’r mwg ddianc i’r nos. Nodiodd ei ben, fel tasai’n deall yn iawn, ond sut gallai e, ac yntau’n byw bywyd mor wahanol iddi hi, heb wybod yn iawn beth oedd ystyr gwreiddiau.\nDechreuodd Fflur y daith o’r dafarn yn teimlo fel petai Guto wedi’i gorfodi i fynd gyda Peter yn erbyn ei hewyllys, ond gyda’r milltiroedd yn diflannu o dan olwynion y pick-up, roedd hi’n falch erbyn hyn iddo wneud hynny. Er ei hamheuon cynharach, roedd Peter yn gwmni da ac yn dangos cryn ddiddordeb ynddi. Yn ogystal â smocio’n ddi-stop, roedd e’n siarad fel pwll y môr, gan ofyn cwestiynau lu ac adrodd stori ar ôl stori.\nAlmaenwr oedd Peter Stumpp, ond bu’n byw mewn degau o lefydd gwahanol ers iddo adael ei dref enedigol – Bedburg, ger Köln – rhyw bymtheg mlynedd ynghynt. Roedd yn byw yng Ngerddi Hwyan ers rhyw flwyddyn bellach, a dyna’r cyfnod hiraf iddo aros yn un lle ers iddo adael yr Almaen. Roedd e’n byw fel sipsi modern, yn teithio o le i le fel y mynnai – weithiau’n pigo ffrwythau neu’n lladd ieir ar ffermydd dwys, ar adegau eraill yn tynnu peints mewn tafarndai, yn gweithio ar y ffyrdd neu’n labro. Ar hyn o bryd, roedd yn gweithio i gwmni gwerthu peiriannau amaethyddol, ac er nad oedd yn mwynhau’r swydd ryw lawer, roedd hi’n talu’r rhent ac yn ei gadw mewn tybaco. Roedd rhywbeth hudol am ei fodolaeth, rhywbeth rhamantaidd, a gwrandawai Fflur arno fel plentyn ysgol yn gwrando ar stori’r athrawes.\nRoedd ganddo gyn-wraig, a honno’n ei atal rhag gweld ei ddau fab – Bastien a Gerd – a daeth rhyw gwmwl drosto am funud neu ddwy wrth iddo sôn amdani. Crychodd yr un ael oedd uwchben ei lygaid deuliw – un glas ac un brown – a dweud, “Chi’n methu sgwennu estranged heb gynnwys y gair strange, ac mae’n ex i’n fenyw ryfedd iawn...” cyn ailgydio yn ei hiwmor a newid ffocws y sgwrs.\nParhâi’r sgwrs i lifo wrth i Peter wthio’r pick-up ymlaen drwy’r nos a synnodd Fflur ei bod hi’n siarad mor agored ag e, â dieithryn, hynny yw. Ond ar ôl mis o dawelwch yn ystod diflaniad Ffion a mudandod ei rhieni, roedd cymeriad hawddgar Peter Stumpp yn gwneud i Fflur deimlo fel petai, efallai, wedi ffeindio ffrind. Un ai hynny, neu fod yr unigrwydd diweddar wedi effeithio arni’n fwy nag roedd hi’n fodlon ei gyfaddef.\nWrth i’r glaw barhau i ddisgyn, syllai Fflur ar y wipers yn symud ar y ffenest o’i blaen, ’nôl a mlaen, ’nôl a mlaen, ’nôl a mlaen fel metronom.\n“Byddwn ni ’na mewn rhyw awr fach...” meddai Peter wrth iddynt basio arwydd yn datgan bod 53 o filltiroedd eto cyn iddynt gyrraedd pen eu taith.\nTawelodd y sgwrs yn sydyn, felly trodd Peter y chwaraeydd tapiau ymlaen er mwyn cyflwyno Fflur i’w hoff fath o gerddoriaeth: Country & Western.\nGwenodd Fflur wrth glywed nodau’r gitâr pedal dur: dylsai fod wedi dyfalu pan welodd y mwled a dillad y gyrrwr – sef jîns tyn a chrys siec coch a gwyn. Ond mewn gwirionedd, roedd Fflur ei hun yn hoff o Iwcs a Doyle, Iona ac Andy, a hyd yn oed John ac Alun, diolch i allbwn echrydus yr orsaf radio leol oedd i’w glywed yn ei chartref o fore gwyn tan nos. Felly roedd ychydig bach o Willy Nelson yn fwy na derbyniol.\nWrth basio arwydd arall yn dangos bod ugain milltir arall cyn cyrraedd eu cyrchfan, dechreuodd y sgwrs lifo unwaith eto. Teimlai Fflur yn ddiogel yng nghwmni Peter a byddai cyrraedd y dref rywfodd ddim mor erchyll gyda fe’n gwmni iddi.\nPeidiodd y glaw ymhen rhyw ddeng milltir a gwasgarodd y cymylau gan adael i’r sêr ddisgleirio o dan ddwfe’r ffurfafen."
471
+ }
472
+ ]
B2_uwch-1_de-learnwelsh.json ADDED
The diff for this file is too large to render. See raw diff